Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / This is a bilingual message - Please see below for English version
 
 
Hoffai CyMAL fesur lefel y diddordeb sydd mewn Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Bydd lleoliad yr hyfforddiant yn seiliedig o bosib ar yr ardal sydd a ddewisir fwyaf.
 
Gweler manylion y gweithdy isod, ac os hoffech i CyMAL gynnig yr hyfforddiant hwn rhowch wybod imi drwy ddarparu'r wybodaeth a ganlyn erbyn 9 Chwefror 2015 fan bellaf:
 
Enw
Teitl eich swydd
Eich cyfeiriad e-bost fel unigolyn (os yw'n wahanol i'r un a ddefnyddiwch i ateb)
Sefydliad (nid y rhiant-gorff)
Rhif ffôn uniongyrchol
Y lleoliad a fyddai orau gennych (y gogledd, y de neu'r canolbarth)
 
Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
Mae'r Gyfarwyddeb Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus yn gosod ymrwymiad ar gyrff y sector cyhoeddus i wneud gwybodaeth, a gynhyrchir fel rhan o'u 'gorchwyl cyhoeddus', yn hygyrch ac ar gael i'w hailddefnyddio - y nod yw cefnogi'r economi yn ehangach drwy wneud y defnydd ehangaf posibl o wybodaeth y sector cyhoeddus. 
 
Mae'r Gyfarwyddeb ddiwygiedig yn golygu bod gwybodaeth sydd gan archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn y sector cyhoeddus yn dod o fewn cylch gorchwyl y Gyfarwyddeb am y tro cyntaf, a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio â'r Rheoliadau diwygiedig. Pan fo gwybodaeth sydd gennych wed.,i cael ei hailddefnyddio eisoes, bydd hyn yn cynnwys gwneud gwybodaeth ar gael i'w hailddefnyddio drachefn. Gweithdy ymarferol ar y goblygiadau i gyrff y sector diwylliannol, gan gynnwys yr eithriadau sy'n berthnasol: deunyddiau hawlfraint trydydd parti; gwybodaeth sydd gennych ond sydd y tu allan i'ch 'gorchwyl cyhoeddus'; data personol; a gwybodaeth sy’n 'anhygyrch' (h.y. esempt o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol)
 
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
 
CyMAL would like to gauge the level of interest in the Re-use of Public Sector Information. Location of training may be based on the geographical area with the highest preference.
 
Please see workshop details below and if you would like CyMAL to offer this training advise me by providing the following details no later than 09th February 2015:
 
Name
Job title
Individual Email address (if not the same as that you are responding from)
Organisation (not the parent body)
Direct telephone number
Preferred location (north, south or mid Wales)
 
Re-use of Public Sector Information
The Re-use of Public Sector Information Directive places an obligation on public sector bodies to make information produced as  part of their 'public task' accessible and available for re-use - the aim being to support the wider economy through the widest possible exploitation of public sector information. 
 
The amended Directive brings information held by archives, museums and libraries in the public sector within the remit of the Directive for the first time, and you will be required to comply with the amended Regulations. Where information you hold has already been re-used, this will include making information available for re-use. Practical workshop on the implications for cultural sector bodies, including on applicable exclusions: third party copyright material; information held which falls outside your 'public task'; personal data; and information that is 'not accessible' (i.e. exempt under FoI and EIR). 
 
 
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.