Print

Print




[cid:image001.jpg@01CFF384.0FF8F400]







Dyddiadau i’ch Dyddiadur: Croeso Cynnes i Bawb

18 Chwefror, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Sgwrs amser cinio gan Richard Suggett, hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol, ar Snowdonian Houses in context. Fe’i cynhelir am 1.15pm yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn. I gael tocynnau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â: http://www.llgc.org.uk/cy/.

19 Chwefror, Cymdeithas Stapledon, 7.45pm. Sgwrs gan Dr Toby Driver, archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, ar Light, lasers and cropmarks: Aerial archaeology and discovery in Wales, i Gymdeithas Stapledon, A14 Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais.

21 Chwefror, YDCW/CPRW Llanidloes, 2pm. Sgwrs gyda lluniau gan Iain Wright, ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol, ar Location Photography: a privileged life, ym Mhlas Dolerw, Y Drenewydd. Croeso cynnes i bawb.

21 Chwefror, Cyd-gynhadledd Syr John Rhŷs wedi’i chynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Brenhinol, 10am–4.30pm. Am 3.30pm, bydd Richard Suggett yn siarad ar Sir John Rhŷs and the foundation of the Royal Commission. Dyma’r gyntaf o ddwy gynhadledd a fydd yn dathlu cyflawniadau Syr John Rhŷs, cadeirydd cyntaf y Comisiwn Brenhinol, ac ieithegydd a llên-gwerinwr Cymreig enwog.

7 Mawrth, Diwrnod Archaeoleg Sir Gâr wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, 10am–4.30pm. Bydd gan y Comisiwn Brenhinol stondin arddangos ac aelod staff yn y digwyddiad hwn. Fei’i cynhelir yn Ystafell Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli. I gael manylion pellach cysylltwch â: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.

11 Mawrth, Cangen y Borth o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, 7pm. Sgwrs gan Medwyn Parry, arbenigwr milwrol y Comisiwn Brenhinol, ar World War I remains in Wales yn Neuadd Goffa’r Borth, Y Borth.

11 Mawrth, Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth a’r Cylch, 7.30pm. Sgwrs gan Louise Barker, archaeolegydd gyda’r Comisiwn Brenhinol, ar Welsh Slate and World Heritage, yn rhagflaenu cyhoeddi llyfr y Comisiwn Brenhinol: Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry. Bydd y sgwrs yn Neuadd Eglwys Bresbyteraidd Dewi Sant, Stryd y Baddon, Aberystwyth. Croeso cynnes i bawb.

29 Ebrill, Seminar y Gwanwyn, cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW), 2.30pm. Sgwrs gan David Leighton, uwch archaeolegydd y Comisiwn Brenhinol, ar Archaeology and the Welsh Landscape: Breconshire and Radnorshire yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, Rhaeadr, Powys, LD6 5HP.

9 Mai, Y Daith Gerdded Fawr Gymreig: Tarddiad Afon Wysg. Taith Dywys mewn partneriaeth â Ramblers Cymru a Cadw. Bydd y daith gerdded hon yn mynd â chi drwy rannau uchaf Afon Wysg hyd at ei tharddiad (o dan glogwyni Fan Brycheiniog a Bannau Sir Gaer) ac ochr ddwyreiniol bellaf y Mynydd Du. Bydd modd gweld safleoedd cynhanesyddol, Rhufeinig, canoloesol a diweddarach ar hyd y llwybr hwn. Cyfarfod am 10.30am yn y man parcio a phicnic ym Mhont ar Wysg yn SN82002715. Taith egnïol yw hon sy’n gofyn am gryn ymroddiad a lefel dda o ffitrwydd. Nifer cyfyngedig o leoedd. I gael manylion pellach a bwcio, cysylltwch â: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>, Ffôn: 01970 621248.

16 Mai, Ffair Hanes Teulu a Lleol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 10am–4pm. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gymdeithasau Hanes Teuluoedd Undebol Cymru a Chymdeithas Hanes Teuluoedd Sir Aberteifi, a bydd yno amrywiaeth eang o stondinau – cymdeithasau hanes teulu a hanes lleol, milwrol, mapiau, llyfrau, hen gardiau post. Bydd gan y Comisiwn Brenhinol stondin hefyd. Dewch i ddarganfod mwy am ble y bu ein cyndadau yn byw, gweithio ac addoli yng Nghymru.

Gŵyl Archaeoleg Prydain, 11– 26 Gorffennaf Y digwyddiadau i’w cadarnhau

Arddangosfeydd teithiol y Comisiwn Brenhinol
Arddangosfa deithiol lwyddiannus wedi’i seilio ar ddelweddau o archif gweledol unigryw y Comisiwn Brenhinol o bensaernïaeth ac archaeoleg Cymru yw Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru. Mae’n cynnig cipolwg breintiedig ar du mewn cartrefi Cymru ar hyd y canrifoedd, o fythynnod i blastai, ac o dai neuadd yr Oesoedd Canol i dai parod a godwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae’n mynd â ni ar daith drwy rai o ystafelloedd mwyaf diddorol cartrefi Cymreig, hen a modern, gan gynnwys ystafelloedd byw, ceginau, ystafelloedd bwyta, ystafelloedd ymolchi, croglofftydd a llyfrgelloedd.

•         Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 11 Ebrill – 6 Mehefin 2015

Prydain oddi Fry: Cymru yw arddangosfa deithiol y Comisiwn Brenhinol o ffotograffau hanesyddol hynaf a mwyaf diddorol Aerofilms. Archif unigryw o filiwn o awyrluniau’n dyddio o 1919 hyd 2006 yw Casgliad Aerofilms. Ceir ffotograffau o bob rhan o Gymru yn yr arddangosfa, a gobeithir y bydd y delweddau anghyfarwydd hyn o leoedd cyfarwydd yn annog cynulleidfaoedd i feddwl am ystyr ac effaith newid, lle a chof.

•         Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 21 Mawrth – 16 Mai 2015

•         Plas Llanerchaeron, Aberaeron, 20 Gorffennaf – 25 Medi 2015

•         Llyfrgell Dinas Abertawe, 20 Gorffennaf – 14 Medi 2015

•         Llyfrgell y Rhyl, 18 Medi – 30 Hydref 2015

Arddangosfa o waith Falcon Hildred, yr arlunydd tirluniau dawnus o Flaenau Ffestiniog, yw Worktown: Lluniadau Falcon Hildred. Ers diwedd y 1950au, mae Falcon Hildred wedi cysegru ei fywyd i greu cofnod gweledol o adeiladau diwylliant diwydiannol sy’n prysur ddiflannu, gan alw’r prosiect cyfan yn “worktown”. Mae ei luniadau manwl, hynod atgofus yn aml, yn cynnwys gwybodaeth o’r pwys mwyaf am dirweddau, melinau, ffatrïoedd, chwareli, tai gweithwyr, llyfrgelloedd, capeli a llawer o safleoedd ac adeiladau eraill, gan gofnodi ar lun holl fywiogrwydd a bryntni’r oes ddiwydiannol a fu.

•         Canolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, 6 Chwefror – 22 Ebrill 2015

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, ewch i dudalen gartref ein gwefan http://www.cbhc.gov.uk/HI/CYM/Hafan/

neu cysylltwch â Nicola Roberts, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]’ch%20Dyddiadur>, Ffôn: 01970 621248.


Dates for Your Diary:
A Warm Welcome to All



18 February, National Library of Wales lunchtime talk by Royal Commission architectural historian, Richard Suggett, on Snowdonian Houses in context. To be held at 1.15pm in the Drwm of the National Library of Wales. Free admission by ticket. For tickets and further information, please contact http://www.llgc.org.uk/en/.



19 February, Stapledon Society, 7.45pm. A talk by Royal Commission aerial archaeologist, Dr Toby Driver, on Light, lasers and cropmarks: Aerial archaeology and discovery in Wales, to the Stapledon Society, A14 Hugh Owen Building, Aberystwyth University Penglais Campus.



21 February, CPRW Llanidloes, 2pm. An illustrated talk by Royal Commission photographer Iain Wright, on Location Photography: a privileged life, at Plas Dolerw, Newtown.



21 February, Sir John Rhŷs Joint Conference held in partnership with Aberystwyth University, National Library of Wales and the Royal Commission, 10am–4.30pm. At 3.30pm, Richard Suggett will be speaking on Sir John Rhŷs and the foundation of the Royal Commission. This is the first of two conferences celebrating the achievements of Sir John Rhŷs first chairman of the Royal Commission, and famous Welsh philologist and folk-loreist. The conference will be held in the Seddon Room, Old College, Aberystwyth.



7 March, Carmarthenshire Archaeology Day organised by Dyfed Archaeological Trust, 10am–4.30pm. The Royal Commission will be supporting this event with an exhibition stand and a member of staff. The event will be held in the Lliedi Suite, Selwyn Samuel Centre, Llanelli. For further details please contact: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.



11 March, Borth Branch of the Royal British Legion, 7pm. A talk by Royal Commission military expert, Medwyn Parry, on World War I remains in Wales, at Borth Community Hall, Borth.



11 March, Aberystwyth and District Civic Society, 7.30pm. A talk by Royal Commission archaeologist, Louise Barker, on Welsh Slate and World Heritage, looking forward to the Royal Commission’s forthcoming publication: Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry. This will be held in St. David’s Presbyterian Church Hall, Bath Street, Aberystwyth.



29 April, Spring Seminar of the Brecon & Radnor branch of The Campaign for the Protection of Rural Wales (CPRW), 2.30pm. A talk by Royal Commission senior archaeologist, David Leighton, on Archaeology and the Welsh Landscape, at the Elan Valley Visitor Centre, Rhayader, Powys, LD6 5HP.



9 May, The Big Welsh Walk: The Source of the Usk. Guided walk in partnership with Ramblers Cymru and Cadw. This walk will take in the upper reaches of the River Usk as far as its source (below the cliffs of Fan Brycheiniog and Bannau Sir Gaer) and the far eastern side of Mynydd Du. Sites of the prehistoric, Roman, medieval & later periods can be seen along this route. Meet at 10.30 am at the parking and picnic area at Pont ar Wysg at SN82002715. This is an energetic walk that will require determined application and a good level of fitness. Places are limited. For further details and booking, please contact: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>, Tel: 01970 621248.



16 May, Family and Local History Fair at National Library of Wales 10am–4pm. Organised by the Association of Family History Societies of Wales and Cardiganshire Family History Society, this event will host a wide variety of stalls – family and local history societies, military, maps, books, old postcards, as well as a stand from the Royal Commission. Come and discover more about where our ancestors lived, worked and worshipped in Wales.



Festival of British Archaeology, 11─26 July

Events to be confirmed.



Royal Commission travelling exhibitions



Inside Welsh Homes is a successful travelling exhibition of images drawn from the Royal Commission’s unique visual archive of the architecture and archaeology of Wales. It offers a privileged glimpse inside Welsh homes over time, from cottages to country houses, and from medieval hall-houses to post-war pre-fabs. The exhibition is a tour of the most distinctive rooms of Welsh houses past and present ranging from living rooms, kitchens, dining rooms, bathrooms, bedrooms and lofts, to libraries.

•         Aberystwyth Arts Centre, 11 April – 6 June 2015



Britain from Above: Wales is the Royal Commission’s travelling exhibition of the oldest and most intriguing of the Aerofilms historic aerial photographs. The Aerofilms Collection is a unique archive of one million aerial photographs dating from 1919 to 2006. With photographs drawn from across Wales, this exhibition of unfamiliar images of familiar places will encourage audiences to explore the meaning and impact of change, place and memory.

•         Aberystwyth Arts Centre, 21 March – 16 May 2015

•         Plas Llanerchaeron, Aberaeron, 20 July – 25 September 2015

•         Swansea City Library, 20 July – 14 September 2015

•         Rhyl Library, 18 September – 30 October 2015



Worktown: The Drawings of Falcon Hildred is a panel-based exhibition of the work of Falcon Hildred, the highly accomplished landscape artist from Blaenau Ffestiniog. Since the late 1950s, Falcon Hildred’s mission has been to make a visual record of the buildings of a disappearing industrial culture, which he calls collectively “worktown”. His meticulous and highly evocative drawings of mills, factories, quarries, workers’ houses, libraries, chapels and many other sites and buildings capture the industrial age in all its grimy vitality.

•         Maenofferen Centre, Blaenau Ffestiniog, 6 February – 22 April 2015



For further information on any of these events, please visit the Home page of our website http://www.rcahmw.gov.uk/HI/ENG/Home/



or contact Nicola Roberts, Public Engagement Officer: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>, Tel: 01970 621248.





Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru<http://newyddiontreftadaethcymru.blogspot.co.uk/>

Gallwch hoffi Comisiwn Brenhinol<http://www.facebook.com/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808> ar Facebook a dilyn @RCAHMWales<http://twitter.com/RCAHMWales> ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.

Ffôn: 01970 621200
E-bost: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>



Subscribe to the Heritage of Wales News<http://heritageofwalesnews.blogspot.co.uk/>

You can ‘like’ the Royal Commission<http://www.facebook.com/pages/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales/146120328739808> on Facebook and follow @RCAHMWales<http://twitter.com/RCAHMWales> on Twitter to stay up to date.

Tel: 01970 621200
E-mail: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>


[cid:image002.jpg@01D04AB0.0868A680]






Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NJ
Ffôn - Telephone: 01970 621200
Ffacs - Fax: 01970 627701
E-bost / E-mail: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Gwefan: http://www.cbhc.gov.uk<http://www.cbhc.gov.uk/> / Website: http://www.rcahmw.gov.uk<http://www.rcahmw.gov.uk/>
Noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru / Sponsored by Welsh Assembly Government