Ia, ond math arall o lechen yw hon ac mae'n newydd sbon.  Does dim niwed mewn defnyddio lluosog gwahanol, cwbl gywir, i wahaniaethu rhwng rhywbeth sy'n Gymreig yn ddiwydiannol ac yn ddiwylliannol ac sy'n rhan annatod o'n hanes a rhywbeth newydd technolegol sy'n rhan o ddiwydiant byd-eang.

Newydd gael neges gan EE yn dweud: "Gawsoch chi lechen yn anrheg Nadolig?  Mynnwch ryddid i'ch llechennau gyda 4GEE a mynd ar-lein yn unrhyw le."

2015-01-13 12:54 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:
Diolch Siân!

Anfonwyd o Surface Pro

Oddi wrth: Sian Roberts
Anfonwyd: ‎Dydd Mawrth‎, ‎13‎ ‎Ionawr‎ ‎2015 ‎12‎:‎11
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary

Cytuno â Carolyn - "llechi" dipyn yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na "llechennau"

Ti'n edrych yn dda iawn am dy oed, Carolyn!

Siân


On 2015 Ion 13, at 11:49 AM, Carolyn Iorwerth wrote:

Sgen i ddim gwrthwynebiad i ‘lechennau’ ond dw i ddim yn meddwl chwaith bod ‘llechi’ yn wirion - pan fydd rhywun yn sôn am ‘tablets’ yn Saesneg, fe allen nhw fod yn sôn am feddyginiaeth ond mae’r cyd-destun yn ei gwneud hy’n amlwg mai am gyfrifiaduron maen nhw’n sôn.
Mae ‘llechen’ ‘llechi’ yn drosiad twt ac maen nhw’n edrych yn debyg i be fyddai hen bobl fel ni’n eu defnyddio yn ysgol y babanod, sef llechen go iawn.
Carolyn

Anfonwyd o Surface Pro

Oddi wrth: Meinir Thomas
Anfonwyd: ‎Dydd Mawrth‎, ‎13‎ ‎Ionawr‎ ‎2015 ‎11‎:‎36
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary

Beth am 'cyfrifiaduron llechen'?

Meinir