Mae gan Robyn Lewis gyfieithiad o ‘Lwon, Cadarnhadau, Datganiadau’ yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith, Atodiad 3, t.1031. Rhian From: MEG ELIS Sent: Friday, January 09, 2015 10:46 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: Tyngu llw yn y llys Efallai y byddai modd holi'r swyddog iaith yn y Ganolfan Gyfiawnder yng Nghaernarfon: mae'r cardiau i gyd ganddynt yno, yn ddwyieithog - llwon y tystion a'r rheithwyr hefyd. Meg From: Tegwen Williams <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Friday, 9 January 2015, 10:21 Subject: Re: Tyngu llw yn y llys Bore da Tybed oes rhywun yn gyfarwydd â geiriad Cymraeg y llw mae rhywun yn ei dyngu yn y llys: "I swear by Almighty God that the evidence I shall give shall be the truth, the whole truth and nothing but the truth". Hefyd, beth am yr 'affirmation' (neu 'gadarnhad' am wn i?): “I do solemnly, sincerely and truly declare and affirm that the evidence I shall give shall be the truth, the whole truth and nothing but the truth”. Diolch yn fawr Tegwen