Print

Print


Mi faswn i'n tueddu i ddeud "a dyna ni" am know the score.

Fasai hynny'n ddealladwy i rywun arall sy'n fater arall. Dibynna hefyd ar naws y frawddeg i gyd.

----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 29/01/2015 - 08:46 (GMTST)
To : [log in to unmask]
Subject : ATB/RE: Know the score

Fel ‘na mae

 

‘Mond i chi gael dalld

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 28 Ionawr 2015 15:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Know the score

 

Dim byd - cyfieithiad gair am air o 'to have a presence' ydio.

On 28/01/2015 14:46, Muiris Mag Ualghairg wrote:

Beth yw ystyr 'cael presenoldeb'?

On 28 Jan 2015 14:40, "Ann Corkett" <[log in to unmask]> wrote:

Diolch byth am gyfieithiad sy'n ystyried nid "Sut alla i gyfieithu'r Saesneg?" ond "Sut fyddai Cymro'n dweud hyn?".

Wedi cael llond fy mol yn gynharach y bore 'ma ar ddarllen pethau fel "cael presenoldeb".  Mae 'na fath o Gymraeg sy'n berffaith gywir yn ramadegol, ond yn ddim byd ond "Cyfieitheg", ac 'rwy'n dechrau adnabod yr arddull mewn rhai cyhoeddiadau dwyieithog nad enwaf mohonynt.  Mi wn nad yw amser bob tro'n caniatau cyfle i bendroni’n hir, ond mae'n well gennyf droi at y Saesneg gwreiddiol na darllen pethau fel hyn, ac 'rwy'n siwr bod llawer iawn o Gymry'n teimlo'r un fath, felly nid yw'r cyfieithu'n ddim byd ond ymarfer gwleidyddol gywir.

Ann

On 27/01/2015 15:35, Cyfri Dot wrote:

Mi faswn i'n cael fy nhemtio i roi rhywbeth fel 'peidiwch â gofyn!'
Pell o'r gwreiddiol dwi'n gwybod, ond dyna'r neges!


On 27 Ion 2015, at 15:32, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
Neges ar grysau T I hysbysu'r ffaith na ellir gwerthu alcohol I bobl sy'n feddw.

If you're drunk we can't serve you. Know the score.

Unrhyw awgrym? Rhywbeth cryno ar ffurf gorchymyn fel y gwreiddiol.
Sent from my BlackBerry® wireless device


-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9007 - Release Date: 01/27/15


 

--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.