Yr egwyddor o dreiglo ymadrodd adferfol. Gweler tudalen xxx yn adran gyntaf Geiriadur yr Academi, ‘Morphology of the Welsh Language’ – neu tud. 58 o Ramadeg David Thorne os nad yw GyA wrth law! Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 16 January 2015 16:54 To: [log in to unmask] Subject: Re: Treiglo 'pob' Alla i ddim gweld sut mae "pob" yn wahanol i unrhyw air arall o ran pryd mae'n treiglo - OND rhaid cofio bod adferfau sy'n ateb y cwestiwn "ble" neu "pryd" yn treiglo ('rwy'n siwr y gall rhywun arall egluro hyn yn well na fi): mi welais i o ddwywaith/ ddoe/ bob dydd. Ann On 16/01/2015 16:04, Claire Richards wrote: I bob un sy’n ffyddlon... Banana i bob un o bobl y byd... Ac o ran ‘gan’ yn benodol, mae 126 o gofnodion o ‘gan bob’ neu’r tebyg yn y Cofnod, a 24,500 o enghreifftiau o “gan bob un” Google. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 16 January 2015 15:31 To: [log in to unmask] Subject: Treiglo 'pob' Helo bawb Tybed oes rheoli ynghylch pryd i dreiglo ‘pob’. Ai treiglo ar ôl arddodiad? Mae pob un? Mae gan bob un? Diolch ymlaen llaw Rhian No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4260/8936 - Release Date: 01/15/15