Mae T J Morgan yn Treigladau a’u Cystrawen yn rhoi’r ateb ar frig tudalen 374, sef dim treiglad.

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Tegid
Sent: 16 January 2015 12:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo wedi "ynteu"

 

O bosib – dwi’n meddwl y buaswn i’n dweud “pen ’ta chynffon tisho” wrth reddf.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Edgar
Sent: 16 January 2015 12:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo wedi "ynteu"

 

  ’ta choffi - Treiglad llaes yn unig ar lafar ? ( a hwnnw’n colli gafael)

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 16 January 2015 11:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo wedi "ynteu"

 

Ac os wyt ti’n cynnig panad – ‘te ‘ta coffi’?  Nid ‘te ‘ta goffi’?

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 Ionawr 2015 11:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo wedi "ynteu"

 

Nage, dyna'r arfer ar lafar yn sicr. Mi fysa "mynd ta ddwad" yn swnio'n od iawn hefyd!

 

Geraint

Anfonwyd o'm ffôn-i. 


On 16 Ion 2015, at 09:44 AM, "Huws, Howard" <[log in to unmask]> wrote:

Yn ôl "Gramadeg Cymraeg" Thorne, mae enwau, ansoddeiriau a berfau yn treiglo wedi "ynteu":

 

"...ai rhinwedd ynteu wendid..."

"...ai cysgu ynteu grio..."

 

Eto, ar lafar, clywir:

 

"Be' wyt ti'n 'i wneud? Mynd ta dŵad?"

"Sut lyfr ydi o? Du ta gwyn?"

 

Ai fi sy'n camglywed?

Howard Huws


-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.