Dw i ddim yn wir yn dallt y rhesymeg - os oes angen gwahaniaethu rhwng llechi to a’r teclynnau newydd yn y lluosog, onid oes angen gwahaniaethu rhwng llechen a theclyn unigol hefyd? Ddim yn gweld pobl yn deud llechennau dw i - dyna’i gyd. Os ydi rhywun yn galw un yn ‘llechen’ dw i ddim yn gweld pam na allwch chi alw lot ohonyn nhw’n ‘llechi’. Carolyn Anfonwyd o Surface Pro Oddi wrth: Eluned Mai Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 15:25 At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Ia, ond math arall o lechen yw hon ac mae'n newydd sbon. Does dim niwed mewn defnyddio lluosog gwahanol, cwbl gywir, i wahaniaethu rhwng rhywbeth sy'n Gymreig yn ddiwydiannol ac yn ddiwylliannol ac sy'n rhan annatod o'n hanes a rhywbeth newydd technolegol sy'n rhan o ddiwydiant byd-eang. Newydd gael neges gan EE yn dweud: "Gawsoch chi lechen yn anrheg Nadolig? Mynnwch ryddid i'ch llechennau gyda 4GEE a mynd ar-lein yn unrhyw le." 2015-01-13 12:54 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>: Diolch Siân! Anfonwyd o Surface Pro Oddi wrth: Sian Roberts Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 12:11 At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Cytuno â Carolyn - "llechi" dipyn yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na "llechennau" Ti'n edrych yn dda iawn am dy oed, Carolyn! Siân On 2015 Ion 13, at 11:49 AM, Carolyn Iorwerth wrote: Sgen i ddim gwrthwynebiad i ‘lechennau’ ond dw i ddim yn meddwl chwaith bod ‘llechi’ yn wirion - pan fydd rhywun yn sôn am ‘tablets’ yn Saesneg, fe allen nhw fod yn sôn am feddyginiaeth ond mae’r cyd-destun yn ei gwneud hy’n amlwg mai am gyfrifiaduron maen nhw’n sôn. Mae ‘llechen’ ‘llechi’ yn drosiad twt ac maen nhw’n edrych yn debyg i be fyddai hen bobl fel ni’n eu defnyddio yn ysgol y babanod, sef llechen go iawn. Carolyn Anfonwyd o Surface Pro Oddi wrth: Meinir Thomas Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 11:36 At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Beth am 'cyfrifiaduron llechen'? Meinir