Cytuno!
Felicity
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: Wednesday, January 14, 2015 11:43 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: tablets
Da, Huw
Mae angen botwm "Hoffi" ar WTC!
Siân
On 2015 Ion 14, at 11:24 AM, Huw Tegid wrote:
Llun bach i ysgafnhau’r drafodaeth (er bod y rhan fwyaf ohonoch wedi ei weld o’r blaen, dwi’n siŵr)
Cofion gorau,
Huw
Oddi wrth: Eluned
Mai
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 22:56
Ia Carolyn, mae'n bur debyg bod fy rhesymeg dros y lle i gyd. Rhyw chwilen yn fy mhen sy gen i am ddefnyddio ffurfiau sy'n gywir, rhyw rwdlan yn fy mhen y bydd
yr iaith yn para'n hirach os byddwn ni'n gwneud ymdrech i ddefnyddio'r ffurfiau sydd ynghlwm wrth deithi'r iaith. Os ydy GPC yn dweud mai 'llechennau' ydy lluosog 'llechen', oes 'na resymeg y tu ôl
i hynny? Roeddwn i jyst am roi cyfle i'r ffurf gael ei ddefnyddio gan ei fod yn bodoli. Neu efallai mai mwydro mae GPC. Efallai mai 'llechi' yw lluosog 'llechen' yn ogystal â 'llech'. Tybed beth oedd yr hen chwarelwyr yn ei ddefnyddio. Efallai mai at
y 'llech' ar y to roedd yr hen bobl yn cyfeirio wrth ddefnyddio 'llechi' am fwy nag un. Fedrwn i byth
alw'r 'llechi' ar y to yn 'llechennau'. 'Llechi' sy'n dod yn naturiol i mi hefyd. Ac er 'mod i'n gallu derbyn 'llechen' fel term am y cyfrifiaduron bach hynny, fel Claire, fedra i yn fy myw â
meddwl amdanyn nhw fel llechi. Efallai, fel rwyt ti'n awgrymu, mai peth da fyddai meddwl am air unigol gwell fyth, gan mai carreg ydy llechen, hyd yn oed y rhai roedden ni'n ysgrifennu arnyn nhw. Ac eto mae o'n derm bach digon da oherwydd y berthynas rhwng
llech/llechen a tablet/tablet bach fel pethau rydych chi'n ysgrifennu arnyn nhw. Yr hen luosog 'na sy'n fy nhaflu i. Ac mi wnes i ryw gymryd at y ffurf 'llechennau' fel rhywbeth oedd ddim yn llechi ar ben to. Roeddwn i'n clywed rhyw dinc barddonol iddo.
Dwi'n deall mai fy marn i yw hyn......
2015-01-13 16:17 GMT+00:00 Bethan Jones <[log in to unmask]>:
Cytuno
llechen a llechi sy’n dwad yn naturiol i mi.
Dw i ddim yn wir yn dallt y rhesymeg - os oes angen gwahaniaethu rhwng llechi to a’r teclynnau newydd yn y lluosog, onid oes angen gwahaniaethu rhwng llechen a theclyn unigol
hefyd? Ddim yn gweld pobl yn deud llechennau dw i - dyna’i gyd. Os ydi rhywun yn galw un yn ‘llechen’ dw i ddim yn gweld pam na allwch chi alw lot ohonyn nhw’n ‘llechi’.
Carolyn
Anfonwyd o Surface Pro
Oddi wrth: Eluned
Mai
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 15:25
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Ia, ond math arall o lechen yw hon ac mae'n newydd sbon. Does dim niwed mewn defnyddio lluosog gwahanol, cwbl gywir, i wahaniaethu rhwng rhywbeth sy'n Gymreig yn ddiwydiannol
ac yn ddiwylliannol ac sy'n rhan annatod o'n hanes a rhywbeth newydd technolegol sy'n rhan o ddiwydiant byd-eang.
Newydd gael neges gan EE yn dweud: "Gawsoch chi lechen yn anrheg Nadolig? Mynnwch ryddid i'ch llechennau gyda 4GEE a mynd ar-lein yn unrhyw le."
2015-01-13 12:54 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:
Diolch Siân!
Anfonwyd o Surface Pro
Oddi wrth: Sian
Roberts
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 12:11
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Cytuno â Carolyn - "llechi" dipyn yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na "llechennau"
Ti'n edrych yn dda iawn am dy oed, Carolyn!
Siân
On 2015 Ion 13, at 11:49 AM, Carolyn Iorwerth wrote:
Sgen i ddim gwrthwynebiad i ‘lechennau’ ond dw i ddim yn meddwl chwaith bod ‘llechi’ yn wirion - pan fydd rhywun yn sôn am ‘tablets’ yn Saesneg, fe allen nhw fod yn sôn am feddyginiaeth ond mae’r cyd-destun yn ei gwneud hy’n amlwg mai am gyfrifiaduron maen nhw’n sôn.
Mae ‘llechen’ ‘llechi’ yn drosiad twt ac maen nhw’n edrych yn debyg i be fyddai hen bobl fel ni’n eu defnyddio yn ysgol y babanod, sef llechen go iawn.
Carolyn
Anfonwyd o Surface Pro
Oddi wrth: Meinir Thomas
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 11:36
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Beth am 'cyfrifiaduron llechen'?
Meinir
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech
gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the
sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
<victorian-i-pads-chalk-board.jpg>