Print

Print


Mae 'yn Ynys Môn' yn swnio'n chwithig. Mae 'ym Môn' yn well. 'Yn Sir 
Fôn' oedd hi erstalwm wrth gwrs, ac mae hynny'n dal yn fyw ar lafar.

Geraint

On 26/01/2015 15:31, Rhian Huws wrote:
>
> P’nawn da gyfeillion
>
> Tybed fedr unrhyw un fy ngoleuo ynghylch yr uchod?
>
> Y cyd-destun yw Ynys Môn fel sir. Rwyf wastad wedi meddwl  bod ‘yn 
> Ynys Môn’ yn swnio’n chwithig, felly ‘ar Ynys Môn’ roeddwn i’n ei 
> ddefnyddio nes i mi gael fy nghywiro gan rywun a ddywedodd mai ‘yn’ 
> sy’n gywir gan mai Sir sydd dan sylw.
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Rhian
>