Sôn am enwau lleoedd yn benodol mae'r llyfr Enwau Lleoedd, nid enwau tai (mae'r cliw yn yr enw!).

Mae Pant y D^wr yn fwy addas ar gyfer enw t^y, faswn i'n meddwl.

Geraint

On 21/01/2015 16:46, Felicity Roberts [afr] wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Ydy. Dw i’n meddwl mai dyna fyddai’r llyfr Enwau Lleoedd ( A Gazeteer of Welsh Place Names ) yn ei ddweud. Pan fo’r ail elfen yn enw cyffredin yna llythyren fach sydd yn briodol meddir yno. Argymhellir y patrwm gyda chysylltnodau yno hefyd gyda’r fannod yn y canol, a’r elfen olaf yn unsill.

Felicity

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: Wednesday, January 21, 2015 4:30 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Enw ty

 

Ond mae Pant-y-dŵr yn bosibilrwydd hefyd, ydi?

 

Siân

On 2015 Ion 21, at 4:10 PM, Carolyn Iorwerth wrote:



Byddwn i’n tueddu i roi Pant y Dŵr.

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhidian Evans
Sent: 21 Ionawr 2015 16:03
To: [log in to unmask]
Subject: Enw ty

 

Prynhawn da

 

Cwestiwn nad yw’n ymwneud â chyfieithu’n uniongyrchol ond wedi cael cais am gyngor gan deulu sydd yn awyddus i enwi eu cartref newydd yn “Pant y dwr”. Sut fyddech chi’n ysgrifennu’r enw? Ai fel Pant y dwr, Pantydwr neu Pant y Dwr? Tueddwn i’w ysgrifennu ar wahan ond beth yw’r arferiad o ran roi ‘D’ fawr i dwr fel yn yr enghraifft yma?


Diolch yn fawr,

 

Rhidian

 

 

 

Rhidian Evans

Prif Swyddog

Menter Iaith Sir Benfro,

Ty'r Ysgol, Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH. Ffôn: 01239 831129

Canolfan Ddysgu Gymunedol, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65 9DT. Ffôn: 01348 873700

Symudol: 07805 151291