Alla i ddim gweld sut mae "pob" yn wahanol i unrhyw air arall o ran pryd mae'n treiglo - OND rhaid cofio bod adferfau sy'n ateb y cwestiwn "ble" neu "pryd" yn treiglo ('rwy'n siwr y gall rhywun arall egluro hyn yn well na fi): mi welais i o ddwywaith/ ddoe/ bob dydd. Ann On 16/01/2015 16:04, Claire Richards wrote: > > I bob un sy’n ffyddlon... > > Banana i bob un o bobl y byd... > > Ac o ran ‘gan’ yn benodol, mae 126 o gofnodion o ‘gan bob’ neu’r tebyg > yn y Cofnod, a 24,500 o enghreifftiau o “gan bob un” Google. > > Claire > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Rhian Huws > *Sent:* 16 January 2015 15:31 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Treiglo 'pob' > > Helo bawb > > Tybed oes rheoli ynghylch pryd i dreiglo ‘pob’. Ai treiglo ar ôl > arddodiad? > > Mae pob un? > > Mae gan bob un? > > Diolch ymlaen llaw > > Rhian > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4260/8936 - Release Date: 01/15/15 >