Codais gwestiwn ddoe efo fy hoff glerc cofnodion ynghylch defnydd "cydleoli" *a* "cyd leoli" yn yr un darn (nid o'i waith o'n bersonol) i'w gyfieithu i'r Saesneg. Tynnais ei sylw hefyd at y ffaith bod "co[-l]locate", os mai dyna oedd y bwriad, yn ferf anghyflawn. Chwarae teg, dyna'r hyn mae o wedi dod o hyd iddo, er y bydd yn rhaid inni aros am air gan y rhai uwch ei ben cyn cwblhau'r cyfieithiad yn ol eu dymuniad: http://www.grammarphobia.com/blog/2013/08/collocation-colocation-co-location.html Blwyddyn Newydd Da, Ann