Hanfodion Ffeilio

Amgueddfa Wrecsam

19 Chwefror 2015

 

Y Stori Caerdydd

26 Chwefror 2015

 

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru.

 

Mae'n addas ar gyfer y rheini:

·         Sy’n gweithio gyda chasgliadau amgueddfeydd

·         Sy’n paratoi ffurflenni Achredu Amgueddfeydd

·         Sy’n creu system ar gyfer dogfennau amgueddfeydd

·         Sy’n adolygu system ar gyfer dogfennau amgueddfeydd

·         Sy’n gweithio ar waith wrth gefn amgueddfeydd.

 

Nod

Cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n ymwneud â dogfennau amgueddfeydd. Ystyrir manteision mabwysiadu arferion da wrth gadw dogfennnau a chaiff y rhai a fydd ar y cwrs gyfle i weld cynnwys system syml ond effeithiol o gadw dogfennau. Rhoddir sylw i bwysigrwydd llunio polisïau’n ymwneud â dogfennaeth, cynllunio ymlaen llaw a chyfathrebu da er mwyn cyflawni dibenion trefniadaethol yr amgueddfa.

 

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs wedi

·         Archwilio pwysigrwydd mabwysiadu arferion da wrth gadw dogfennau

·         Edrych ar ofynion rheoli casgliadau Cynllun Achredu’r Amgueddfa a’u trafod gan roi pwyslais ar ddogfennaeth

·         Edrych ar egwyddorion PAS 197 a SPECTRUM yng nghyd-destun Achredu Amgueddfeydd a’r defnydd a wneir ohonynt a’u trafod

·         Ymarfer gweithdrefnau sylfaenol yn ymwneud â dogfennaeth

·         Asesu eu systemau eu hunain o gadw dogfennau yng nghyd-destun gofynion Achredu

·         Defnyddio adnoddau papur yn ymwneud â dogfennaeth a defnyddio gweithdrefnau’n ymwneud â dogfennau gan ddefnyddio gwrthrychau

·         Rhannu a thrafod eu profiadau hwy eu hunain yn ymwneud â dogfennaeth.

 

Dulliau Hyfforddi: Cyfuniad o gyflwyniadau, DVD, ymarferion ymarferol, trafodaethau anffurfiol a chyfarfodydd un ac un.

 

Paratoi: nid oes angen paratoi ymlaen llaw

 

Hyfforddwr: Alex Dawson, ymgynghorydd ar dreftadaeth ddiwylliannol

 

Cofrestru

Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno, ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.

 

Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.

19 Chwefror 2015

http://www.eventbrite.com/e/documentation-essentials-19-february-2015-hanfodion-ffeilio-19-chwefror-2015-registration-13459733425?aff=mail

26 Chwefror 2015

http://www.eventbrite.com/e/documentation-essentials-26-february-2015-hanfodion-ffeilio-26-chwefror-2015-registration-13459883875?aff=mail

 

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

 

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Seaneen McGrogan ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

 

 

Lauren Baldwin
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu

Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2251
[log in to unmask]
CyMAL contact number : 0300 062 2112

Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi.

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.


P Please consider the environment - do you really need to print this email?

Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn?

 

 

 


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.