Print

Print


Rwy'n llawn cydymdeimlad ā'r cyfieithydd a gafodd y dasg o gyfieithu slogan rightmove "find your happy".

Roeddwn wedi clywed llais Aled Samuel yn dweud "canfod eich hapus" ac yn methu deall beth roedd yn ceisio'i gyfleu ond heb weld y geiriau Saesneg ar y sgrin.

Wedi holi ar twitter, mae'n debyg bod y cwmni am ddefnyddio geiriad od i dynnu sylw at eu hysbyseb ac ennyn trafodaeth a'u bod am ddefnyddio "happy" i gyfleu "y lle yr ydych yn hapus ynddo".

Mae'n debyg bod pobl wedi cwyno am y Saesneg a'r Gymraeg a bod trafodaeth wedi'i chynnal ar Taro'r Post!

Y cwestiwn yw, sut mae cyfieithwyr i fod i ymateb pan fydd y testun gwreiddiol yn fwriadol "od"?

Mae'n rhaid i'r cyfieithiad fod yn "od" hefyd, am wn i.

Yn yr achos hwn, mae'n siwr bod rhywun wedi cael miloedd o bunnau am benderfynu y byddai'n syniad da defnyddio "hapus" fel enw i gyfleu "y man delfrydol i chi"/"y man lle byddwch yn hapus" felly mae'n siwr y byddai'n well cadw hynny yn y Gymraeg.

Y cwestiwn wedyn yw, a ddylid cyfieithu'n llythrennol - Canfod eich hapus - posibiliadau eraill fyddai Canfyddwch eich hapus / Ffeindiwch eich hapus / Chwiliwch am eich hapus / Dewch o hyd i'ch hapus - ynteu aralleirio? Mae hwn yn anodd am fod y math yma o orchmynnol a'r gair "find" yn anodd eu cyfieithu!

Gobeithio wir nad ydi rightmove yn dechrau ffasiwn!

Siān