Print

Print


Diolch am y neges, Anne.

 

Os bu enw tebyg i Drwyn y Frân rywdro, mae’n bosibl mai cyfeiriad at y fulfran oedd hwn, ond beth am y frân goesgoch?  Adar y glannau yw’r rhain gan fwyaf, ac mae rhai o hyd ar Ynys Môn. Ydi’n bosibl eu bod yn fwy cyffredin ar yr ynys ers talwm ac yn nythu yn y fan honno?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 01 December 2014 12:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ravens Point

 

Tybed ydy Claire yn cofio'r drafodaeth fer hon?

Yr wythnos ddiwethaf, aethom i glywed sgwrs (ardderchog) gan Bedwyr Rees ar enwau glannau Mon (yng Nghanolfan Uwchgwyrfai).

Ar ol y sgwrs, aethom at y siaradwr a'i holi ynghylch yr enw "Ravens Point".  Erbyn hyn 'rwy'n falch iawn y penderfynwyd peidio a Chymreigio'r enw'n "Trwyn y Gigfran", achos dyma neges e-bost Bedwyr Rees y bore 'ma:

"Rydw i wedi ymchwilio rhyw fymryn ac mae’n debyg mai’r enw Cymraeg am Raven’s Point ydy Penrhyn Mawr neu Penrhyn Garw. Mae’n bosib hefyd fod enw arall ac mai cyfieithiad uniongyrchol ydy Raven’s Point ond hyd yma, ni allaf ddod o hyd i gofnod o Drwyn y Frân neu debyg. Os mai cyfieithiad ydyw, tybiaf ei fod yn anghywir. Buaswn yn rhoi fy mhen i grogi nad Bran neu Cigfran sydd dan sylw yn y cyd-destun yma ond Mulfran. Yn hynny o beth, Cormorant’s Point fyddai’n gywir. Gweler Carreg y Frân yng Nghemaes sydd bellach yn cael ei alw’n Crow Rock. Nid yn unig fod yr enw Cymraeg wedi ei golli, mae’r ystyr wedi ei golli yn y cyfieithiad hefyd. Adar môr sydd yn mynychu’r garreg, nid adar tir."

Cofion gorau,

Ann

On 18/03/2010 09:14, Post wrote:

Diolch, Ann a Bruce.  Yn y diwedd penderfynon ni adael yr enw Ravens Point, gan mai “Ffordd Ravenspoint” a welson ni ar y we am “Ravenspoint Road”.

 

O ran chwilfrydedd, oes yna gofnodion hanesyddol o’r enw Saesneg ‘Ravens Point’ ar nodwedd daearyddol?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 17 March 2010 17:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ravens Point

 

Mae Bruce wedi chwilio hen fapiau a siartiau a chronfa Melville Richards yn reit ddyfal ac yn methu dod o hyd i unrhyw beth.  Ni all ond awgrymu “Trwyn y Fran” neu “Trwyn y Gigfran” os ydych am Gymreigio’r enw.

 

Ann



From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Post
Sent: 16 March 2010 16:00
To: [log in to unmask]
Subject: Ravens Point

 

Beth yw enw iawn y lle hwn (ar Ynys Môn), os gwelwch yn dda?

 

Diolch.

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.