Mae angen botwm "Hoffi" ar W-T-C!

Diolch byth am bolisi dwyieithog!

Siân

On 2014 Rhag 9, at 11:56 AM, Ann Corkett wrote:

Son am ddefnydd trosiadol "windows".  Cofiaf fod mewn ystafell ddosbarth ar y llawr uchaf yng Ngoleg Menai a gweld arwydd:
PLEASE EXIT WINDOWS WHEN LEAVING THE ROOM.
Dim ond gweld y fersiwn Cymraeg, a chofio i'r ystafell fod, ar ryw adeg, yn ystafell gyfrifiaduron, wnaeth f'achub.

Ann
On 09/09/2014 13:09, Carolyn wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Mae ‘na gryn dipyn o ddefnyddio geiriau’n drosiadol yn y maes yma does felly dw i ddim yn gweld hynny’n broblem e.e. mae ‘window’/’library’ ac ati i gyd yn cael eu defnyddio fel tasen nhw’n bethau go iawn ond trosiadau sy’n cael eu benthyg o’r byd diriaethol ydyn nhw.

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MEG ELIS
Sent: 9 Medi 2014 12:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg

 

Roeddwn i wedi meddwl am 'fan' neu 'lecyn' - byddai'n rhaid ei ddefnyddio'n drosiadol, oherwydd  cyfeirio at y rhithfyd mae hanner y termau. (Mae'r un peth yn wir am 'key', sydd ddim yn help gan fod y term 'key signing key' yn ymddangos hefyd! (fel enw ac fel ansoddair). O diar... Tueddu i fynd am 'man' ydw i ar hyn o bryd, os na fedr rhywun daflu mwy o oleuni.

From: Carolyn <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 9 September 2014, 12:47
Subject: Re: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg

 

Be’n union ydy’r zone, Meg? Fyddai ‘llecyn’ yn gwneud y tro neu ‘fan’?

Carolyn

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MEG ELIS
Sent: 9 Medi 2014 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg

 

Rhywun yn gallu helpu efo term am hyn? Y drafferth yw mai "parth" sydd fel arfer yn cael ei ddenfyddio am "zone", ond gan mai dogfen yw hon am gofrestru enwau parth ( "Domain names"), byddai defnyddio "parth" yn creu dryswch anferthol.

Help!

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4015/8180 - Release Date: 09/09/14