Mae angen botwm "Hoffi" ar W-T-C! Diolch byth am bolisi dwyieithog! Siân On 2014 Rhag 9, at 11:56 AM, Ann Corkett wrote: > Son am ddefnydd trosiadol "windows". Cofiaf fod mewn ystafell ddosbarth ar y llawr uchaf yng Ngoleg Menai a gweld arwydd: > PLEASE EXIT WINDOWS WHEN LEAVING THE ROOM. > Dim ond gweld y fersiwn Cymraeg, a chofio i'r ystafell fod, ar ryw adeg, yn ystafell gyfrifiaduron, wnaeth f'achub. > > Ann > On 09/09/2014 13:09, Carolyn wrote: >> Mae ‘na gryn dipyn o ddefnyddio geiriau’n drosiadol yn y maes yma does felly dw i ddim yn gweld hynny’n broblem e.e. mae ‘window’/’library’ ac ati i gyd yn cael eu defnyddio fel tasen nhw’n bethau go iawn ond trosiadau sy’n cael eu benthyg o’r byd diriaethol ydyn nhw. >> Carolyn >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MEG ELIS >> Sent: 9 Medi 2014 12:57 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg >> >> Roeddwn i wedi meddwl am 'fan' neu 'lecyn' - byddai'n rhaid ei ddefnyddio'n drosiadol, oherwydd cyfeirio at y rhithfyd mae hanner y termau. (Mae'r un peth yn wir am 'key', sydd ddim yn help gan fod y term 'key signing key' yn ymddangos hefyd! (fel enw ac fel ansoddair). O diar... Tueddu i fynd am 'man' ydw i ar hyn o bryd, os na fedr rhywun daflu mwy o oleuni. >> From: Carolyn <[log in to unmask]> >> To: [log in to unmask] >> Sent: Tuesday, 9 September 2014, 12:47 >> Subject: Re: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg >> >> Be’n union ydy’r zone, Meg? Fyddai ‘llecyn’ yn gwneud y tro neu ‘fan’? >> Carolyn >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MEG ELIS >> Sent: 9 Medi 2014 12:28 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Zone -fel yn 'key signing zone' ym maes cyfrifiadureg >> >> Rhywun yn gallu helpu efo term am hyn? Y drafferth yw mai "parth" sydd fel arfer yn cael ei ddenfyddio am "zone", ond gan mai dogfen yw hon am gofrestru enwau parth ( "Domain names"), byddai defnyddio "parth" yn creu dryswch anferthol. >> Help! >> >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4015/8180 - Release Date: 09/09/14 >> >