Print

Print


Ffasiwn ym myd hysbysebu yw defnyddio ansoddeiriau fel enwau.  Mae erthygl ddiddorol yma

http://theweek.com/article/index/261389/how-advertisers-trick-your-brain-by-turning-adjectives-into-nouns

 

Rhaid dweud bod ’na un enghraifft o’r arfer y tu allan i faes hysbysebu dwi’n ei hoffi, sef yr ymadrodd cyffredin ar y we wrth ymateb i rhyw hurtrwydd neu’i gilydd “The stupid! It burns!”

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 15 December 2014 11:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: cyfieithu ymadroddion od

 

 

 

Tybed hefyd ydy’r ffaith bod ‘your’ a ‘you’re’ yn Saesneg yn fwriadol glyfar e.e. bod yr ystyr ‘Find ‘that’ you’re happy’. Neu ydw i’n gorddehongli?  Dw i hefyd yn meddwl bod y ffurfiau ‘lled orchmynnol’ hyn yn anodd eu cyfieithu , mae’r ffurfiau gorchmynnol yn Gymraeg gymaint yn fwy gorchmynnol na’r ystyr sydd yn ‘find’ yn fan hyn. Ond dydy berfenw ddim yn gweithio’n iawn chwaith. Mae ‘beth am….’ yn aml yn gweithio - ond dw innau hefyd yn cydymdeimlo â’r cyfieithydd druan! 

 

Oddi wrth: Sian Roberts
Anfonwyd: ‎Dydd Llun‎, ‎15‎ ‎Rhagfyr‎ ‎2014 ‎11‎:‎21
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary

 

Rwy'n llawn cydymdeimlad â'r cyfieithydd a gafodd y dasg o gyfieithu slogan rightmove "find your happy".

Roeddwn wedi clywed llais Aled Samuel yn dweud "canfod eich hapus" ac yn methu deall beth roedd yn ceisio'i gyfleu ond heb weld y geiriau Saesneg ar y sgrin.

Wedi holi ar twitter, mae'n debyg bod y cwmni am ddefnyddio geiriad od i dynnu sylw at eu hysbyseb ac ennyn trafodaeth a'u bod am ddefnyddio "happy" i gyfleu "y lle yr ydych yn hapus ynddo".

Mae'n debyg bod pobl wedi cwyno am y Saesneg a'r Gymraeg a bod trafodaeth wedi'i chynnal ar Taro'r Post!

Y cwestiwn yw, sut mae cyfieithwyr i fod i ymateb pan fydd y testun gwreiddiol yn fwriadol "od"?

Mae'n rhaid i'r cyfieithiad fod yn "od" hefyd, am wn i.

Yn yr achos hwn, mae'n siwr bod rhywun wedi cael miloedd o bunnau am benderfynu y byddai'n syniad da defnyddio "hapus" fel enw i gyfleu "y man delfrydol i chi"/"y man lle byddwch yn hapus" felly mae'n siwr y byddai'n well cadw hynny yn y Gymraeg.

Y cwestiwn wedyn yw, a ddylid cyfieithu'n llythrennol - Canfod eich hapus - posibiliadau eraill fyddai Canfyddwch eich hapus / Ffeindiwch eich hapus / Chwiliwch am eich hapus / Dewch o hyd i'ch hapus - ynteu aralleirio? Mae hwn yn anodd am fod y math yma o orchmynnol a'r gair "find" yn anodd eu cyfieithu!

Gobeithio wir nad ydi rightmove yn dechrau ffasiwn!

Siân