On 09/12/2014 11:19, Carolyn Iorwerth wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Mae athrawon a staff Cyngor Gwynedd wedi bod yn defnyddio ‘anwytho’ yn helaeth ers blynyddoedd - sy’n dangos pa mor hawdd yw hi i eirfa newydd enill eu plwy pan fydd pobl yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. (Nid dadlau o blaid ‘anwytho’ ydw i gyda llaw - dim ond dweud bod y geiriau odiaf yn gallu gafael pan fydd pobl yn gweithio yn Gymraeg - sydd gan amlaf yn beth da ond yn digwydd bod yn anffodus y tro yma!)
Carolyn

Anfonwyd o Surface Pro

Oddi wrth: Geraint Lovgreen
Anfonwyd: ‎Dydd Mawrth‎, ‎9‎ ‎Rhagfyr‎ ‎2014 ‎10‎:‎35
At: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary

Sefydlu yn hytrach nag ymsefydlu efallai?
 
Sent: Tuesday, December 09, 2014 7:09 AM
Subject: Re: induction
 
Diolch am eich doethineb Megan a Siân.  Ymsefydlu yw’r gair mwyaf cyffredin erbyn hyn yn y byd busnes.  (Oni bai bod rhywun yn gweithio i TATA Steel efallai!).
 
Cofion
 
 
 
On 8 Dec 2014, at 19:07, Megan Tomos <[log in to unmask]> wrote:
 
Cytuno! Poenus iawn fyddai cael dy anwytho!

Sent from my iPhone

On 8 Dec 2014, at 17:38, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

Hyd y gwelaf i, mae anwytho yn perthyn i fyd ffiseg ond mae Cyngor Gwynedd, ac efallai gyrff erail,  wedi bod yn ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyno rhywun i waith newydd.
 
Mae "cynefino", "ymsefydlu" ac "ymgynefino" yn ferfau cyflawn h.y. mae'r gweithiwr newydd yn cael ei gyflwyno neu ei sefydlu yn y gwaith ond fe/hi ei hunan sy'n "ymsefydlu" neu'n "ymgynefino"
 
Ond, am wn i, bod modd defnyddio pob un ond "anwytho" ar gyfer y broses.
 
Siân
 
 
On 2014 Rhag 8, at 5:10 PM, Saunders, Tim wrote:

Ceir nifer o gyfatebion ar gyfer y term uchod. Dyma rai ohonynt:
 
 
Oes rhywun wedi dod ar draws rheol weddol glir ar gyfer defndydd y geiriau hyn?
 
anwytho
 
cyflwyno
 
cynefino
 
sefydlu
 
ymgynefino
 
ymsefydlu
 
 
Yn iach,
 
Tim
 
Tim Saunders,
Cyfieithydd / Translator,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf County Borough Council
 
 
 
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
 
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.  
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4235/8703 - Release Date: 12/08/14

Mae gweinidogion yr efengyl yn cael eu hordeinio ac yna'n cael eu 'sefydlu' mewn eglwys. Dyna yw/oedd y term ar hen arfer ar gyfer cyrddau sefydlu sy'n cyfateb yn union i 'induction' yn Saesneg. Dwi'n cofio osgoi 'anwytho' fel y pla hyd yn oed os oedd Gwynedd yn ei ddefnyddio! Sefydlu mewn swydd onid e - hynny yw, mae 'na gyrsiau a chyfarfodydd cyflwyno y byddwch yn eu mynychu er mwyn 'ymsefydlu' felly byddwn i'n defnyddio 'sefydlu' bob tro.