Print

Print


Cynllunio ar gyfer Argyfwng
Digwyddiad Profi eich Cynllun Argyfwng

16 Chwefror 2015
Archifau Ynys Môn

03 Mawrth 2015
Archifau Gwent

Gall digwyddiadau annisgwyl ddigwydd gael effaith ddramatig ar allu amgueddfa, archifdy neu lyfrgell i weithredu’n arferol. Yn sydyn gall casgliadau a gwasanaethau ddod o dan fygythiad a bydd disgwyl i'r sefydliad ymateb yn effeithlon ac effeithiol.
Mae profi cynllun argyfwng eich sefydliad yn rheolaidd yn un o ofynion Safonau Achredu  Amgueddfeydd ac Archifa. Mae CyMAL yn bwriadu cynnal digwyddiad 'Profi eich cynllun' ac estynnir gwahoddiad i weithwyr proffesiynol amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru fynychu’r digwyddiad.
Mae’r fformat ar gyfer y digwyddiad fel a ganlyn :
•       Bydd CyMAL ar y cyd â Gwasanaethau Adfer Dogfennau Harwell yn datblygu senario i chi i brofi eich cynllun yn ei erbyn.
•       Mae’r graddau y byddwch yn profi eich cynllun i fyny i chi; gallwch ei wneud fel ymarfer pen desg neu ei brofi mewn ffordd fwy ymarferol.
•       Yna bydd disgwyl i chi werthuso'r ymarfer senario, gyda'r holl aelodau tîm a gymerodd ran, yn erbyn cyfres o gwestiynau a fydd yn helpu i lywio trafodaeth mewn sesiwn ôl-drafod.
•       Rhaid i o leiaf un aelod o staff a gymerodd ran yn yr ymarfer fynychu cyfarfod ôl-drafod a gynhelir gan CyMAL i roi adborth ar eich prawf a thrafod y broses gyda grŵp ehangach er mwyn gwerthuso eich cynllun yn feirniadol.
Digwyddiad peilot yw 'Profi eich Cynllun Argyfwng'. Yn ddibynnol ar lwyddiant byddwn yn ystyried ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol i chi nodi yn eich dyddiadur er mwyn helpu i sicrhau bod profi cynlluniau argyfwng yn rheolaidd yn dod yn rhywbeth arferol.
Mae'r hyfforddiant mewn dwy ran:
1.      Bydd yn rhaid i'ch sefydliad brofi eich cynllun yn erbyn y senario a  gweithgareddau penodol.
2.      Yna bydd angen i chi fynychu'r cyfarfod ôl-drafod naill ai ar 16 Chwefror (gogledd Cymru) neu 03 Mawrth (de Cymru).
Nodau ac amcanion y digwyddiad
Y nod yw cynorthwyo amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd i edrych ar eu cynllun a’u trefniadau argyfwng cyfredol a’u gwerthuso'n feirniadol yng nghyd-destun sefyllfaoedd penodol. Bydd hyn yn helpu i adnabod unrhyw welliannau a allai fod yn briodol i fanylion eich cynllun penodol.
Yr amcanion ar gyfer cynrychiolwyr yw:
•       gwybod sut i gyfathrebu cynnwys cynllun argyfwng eu sefydliad yn effeithiol i'r staff.
•       gwybod sut i ennyn diddordeb y staff yn y broses o gynllunio ar gyfer argyfwng.
•       gwybod pa mor aml y mae’n RHAID adolygu a phrofi’r cynllun er mwyn bodloni'r gofynion ar gyfer Achredu (Amgueddfa ac Archifdy).
•       cael profiad ymarferol o brofi'r cynllun.
Hyfforddwr: Emma Dadson, Gwasanaethau Adfer Dogfennau Harwell
Swyddog CyMAL: Sarah Paul

Dylech gofrestru eich diddordeb trwy ddefnyddio'r ddolen briodol isod ar gyfer naill ai gogledd neu de Cymru.

16 Chwefror 2015
http://www.eventbrite.com/e/emergency-planning-test-your-emergency-plan-event-16-february-2015-cynllunio-ar-gyfer-argyfwng-registration-11900764507?aff=mail

03 Mawrth 2015
http://www.eventbrite.com/e/emergency-planning-test-your-emergency-plan-event-03-march-2015-cynllunio-ar-gyfer-argyfwng-registration-11900642141?aff=mail

Rydym yn argymell yn gryf i’ch sefydliad ymuno â rhestr ddosbarthu Jiscmail Rhwydwaith Cynllunio at Argyfyngau Cymru (RhCAC) cyn yr hyfforddiant gan mai dyma'r fforwm y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer rhannu gwybodaeth.


Lauren Baldwin
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2251
[log in to unmask]
CyMAL contact number : 0300 062 2112

Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi.

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.

• Please consider the environment - do you really need to print this email?
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn?




On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.