Print

Print


Feddyliais i rioed basa ymholiad bach am 'pen' yn ysgogi'r fath ymateb difyr a dadleuol a diddorol!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2014-11-23 15:36 GMT+01:00 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>:
Byddai'n braf pe bai'r Llyfr hwnnw'n cael ei gyhoeddi.

From: Mary Jones
Sent: ‎23/‎11/‎2014 12:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen

Ie, ‘calch’ oedd y gair am Snopek/Tippex. Dydw i ddim yn cofio’r ‘incil glud’, ond yn bendant ‘incil’ oedd y teclyn oedd yn dal y rholyn sellotape. ‘Padell mewn’ a ‘padell ma’s’ am ‘In tray ac ‘Out tray’, a’r ‘Llyfr Llwyd’ oedd y ‘copybook’ mawr ar ganol y ddesg lle byddai pawb yn cofnodi bathiadau newydd. Efallai y dylid ei alw’n ‘Llyfr Llwyd Caerdydd’!

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 21 November 2014 10:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen

 

Pan es i i weithio yn y Swyddfa Gymreig ers lawer dydd, 'calch' oedd enw Berwyn ar Tippex, ac 'incil glud' oedd Sellotape.

 

Rwy'n credu mai bathiadau gan Moc Rogers oedd y rhain: Mary fyddai'n gallu cadarnhau mae'n debyg.

 

(Padell mewn a mâs oedd yr in tray a'r out tray.)

 

 

 

2014-11-21 10:09 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

Dilëwr glywais i, neu rwbiwr – gan y plant o bosib.

 

Rwbiwr fyswn i’n ddeud – mae rybar yn cyfleu rhywbeth eitha gwahanol i fi!

 

Geraint

 

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Sian Roberts

Sent: Thursday, November 20, 2014 7:50 PM

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Subject: Re: pen

 

Ie!  Jest meddwl eu bod nhw'n mynd braidd dros ben llestri yno!

 

Ond wedyn mae rhywun wedi dod i ddweud cyfrifiadur a cyfrifiannell yn hollol naturiol.

Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell.

 

Siân

 

 

 

On 2014 Tach 20, at 7:39 PM, anna gruffydd wrote:



dileuydd? on i'n meddwl mai peth i sgwennu oedd sgrifbin - siawns nad rybar ydi dileuydd???!!

 

Anna

 

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-11-20 20:20 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

Ie, wnes i holi ar Facebook neithiwr i weld a gawn ni wybod beth y mae ysgolion yn ei ddefnyddio.

Yr unig beth a ddysgais oedd bod plant rhai ysgolion Cymraeg yn y de slawer dydd yn dweud "ysgrifbin" ond eu bod hefyd yn dweud "dileuydd"!!

 

Siân

 

On 2014 Tach 20, at 6:11 PM, Eluned Mai wrote:



Ia, dwi'n gwybod beth rwyt ti'n feddwl ond mae plant ysgolion Cymraeg yn defnyddio termau na fasai eu rhieni byth yn dychmygu eu defnyddio.  Tasai'r ysgolion yn defnyddio sgrifbin, dyna fasai'r plant yn ei ddefnyddio.  Does dim rhaid ei gladdu am ei fod wedi mynd allan o ffasiwn.

A does dim ffurf luosog i 'beiro' heb ychwanegu'r 's' Saesneg.

Oes rhaid i sgrifbin fod yn hen deip steilus efo inc?

 

2014-11-20 15:42 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

Ond, wrth gyfieithu am bethau bob-dydd, mae rhyw fath o ddyletswydd arnon ni ddefnyddio iaith bob-dydd.

Alla i ddim dychmygu defnyddio'r gair "(y)sgrifbin" wrth siarad â neb.

Mae beiro'n cael ei ynganu yn y ffordd Gymraeg a'i dreiglo.

 

Siân

 

 

 

On 2014 Tach 20, at 12:51 PM, Eluned Mai wrote:



Ia, o leiaf rydyn ni wedi gwneud hynny.  Ond tybed ydy o'n ddigon da?  Yn enwedig gan fod gennym ni air pwrpasol yn barod, y mae'r rhan fwyaf o bobl, am wn i, yn gwybod beth yw ei ystyr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei ddefnyddio.  Mwya'n byd o eiriau benthyg rydyn ni'n eu mabwysiadu, lleia'n byd o gadarnleoedd fydd gennym ni i adeiladu arnyn nhw a bydd yr hen iaith yn dlotach ac yn wannach o'r herwydd.  Dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud hynny i ryw raddau efo pethau cwbl newydd - ac roedd beiro'n gwbl newydd ar un adeg, ond bellach mae'n cael ei ddefnyddio am ysgrifbinnau sydd ddim yn feiros.  Mae 'ysgrifbin' yn air bach hollgynhwysol.

 

2014-11-20 10:36 GMT+00:00 megan tomos <[log in to unmask]>:

Mi ryden ni wedi Cymreigio'r ynganiad Saesneg o leiaf fel yr ydym wedi ei wneud efo marmalade a sellotape.  Ydi hynny ddim digon da?

 

Tydi ynganiad y Ffrancod o weekend ddim byd tebyg i weekend y Saeson er bod ein hwicend ni.  Ond os yden ni'n ei dreiglo fel yna a oes angen inni boeni.  Onid 'gobaith mawr y ganrif', chwedl Jarman, ydi "dy jips" a "nhiocled"?

 

Megan

----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 20/11/2014 - 10:07 (UTC)


To : [log in to unmask]
Subject : Re: pen

Ia, dwi'n gwybod.  Meddwl oeddwn i tybed sut mae'r gair yn cael ei ynganu mewn Hwngareg ac mai dyna ddylai'r sillafiad Cymraeg fod wedi'i efelychu, nid yr ynganiad Seisnig.  Mi driais i ddod o hyd i'r ynganiad ar y We ac mi glywais i rywbeth tebyg i 'byro'.  Does gen i ddim syniad a yw hynny'n iawn ai peidio. A dwi'n gwybod na wnaiff y sillafiad Cymraeg fyth newid rwan.  Dim ond codi pwynt.  Tybed a oes gwell sylfaen i adeiladwaith y gair Cymraeg 'ysgrifbin' nag sydd i'r gair 'beiro'.  Ac oherwydd hynny, mae ganddo hawl gynhenid i eistedd yn gyfforddus ymysg ei gydeiriau i greu mynegiant yn Gymraeg.

 

2014-11-19 18:38 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>:

Beiro nid byro rwyf wedi'i glywed eriod.


From:


[The entire original message is not included.]