Yn ôl canlyniadau Google maen nhw yr un peth. Meddwl am y rhai bas, agored ro'n i. Mae "tun" yn gwenud i fi feddwl am y rhai dwfn ar gyfer torth. 2014-11-21 11:42 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: > Ydi "oven tray" run peth â baking tray? "tun pobi bas"? > > Siân > > On 2014 Tach 21, at 11:19 AM, Neil Shadrach wrote: > >> Wrth sôn am "trays" - beth yw "oven tray"? "Padell ffwrn"? >> >> "Scotch tape" yw tâp gludiog yn ardal Gorseinon rwy'n credu :) >> >> >> >> 2014-11-21 10:52 GMT+00:00 David Bullock <[log in to unmask]>: >>> Pan es i i weithio yn y Swyddfa Gymreig ers lawer dydd, 'calch' oedd enw >>> Berwyn ar Tippex, ac 'incil glud' oedd Sellotape. >>> >>> Rwy'n credu mai bathiadau gan Moc Rogers oedd y rhain: Mary fyddai'n gallu >>> cadarnhau mae'n debyg. >>> >>> (Padell mewn a mâs oedd yr in tray a'r out tray.) >>> >>> >>> >>> 2014-11-21 10:09 GMT+00:00 Geraint Lovgreen >>> <[log in to unmask]>: >>>> >>>> Dilëwr glywais i, neu rwbiwr – gan y plant o bosib. >>>> >>>> Rwbiwr fyswn i’n ddeud – mae rybar yn cyfleu rhywbeth eitha gwahanol i fi! >>>> >>>> Geraint >>>> >>>> From: Sian Roberts >>>> Sent: Thursday, November 20, 2014 7:50 PM >>>> To: [log in to unmask] >>>> Subject: Re: pen >>>> >>>> Ie! Jest meddwl eu bod nhw'n mynd braidd dros ben llestri yno! >>>> >>>> Ond wedyn mae rhywun wedi dod i ddweud cyfrifiadur a cyfrifiannell yn >>>> hollol naturiol. >>>> Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell. >>>> >>>> Siân >>>> >>>> >>>> >>>> On 2014 Tach 20, at 7:39 PM, anna gruffydd wrote: >>>> >>>> dileuydd? on i'n meddwl mai peth i sgwennu oedd sgrifbin - siawns nad >>>> rybar ydi dileuydd???!! >>>> >>>> Anna >>>> >>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>> Tread with care and not in haste! >>>> >>>> 2014-11-20 20:20 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: >>>>> >>>>> Ie, wnes i holi ar Facebook neithiwr i weld a gawn ni wybod beth y mae >>>>> ysgolion yn ei ddefnyddio. >>>>> Yr unig beth a ddysgais oedd bod plant rhai ysgolion Cymraeg yn y de >>>>> slawer dydd yn dweud "ysgrifbin" ond eu bod hefyd yn dweud "dileuydd"!! >>>>> >>>>> Siân >>>>> >>>>> On 2014 Tach 20, at 6:11 PM, Eluned Mai wrote: >>>>> >>>>> Ia, dwi'n gwybod beth rwyt ti'n feddwl ond mae plant ysgolion Cymraeg yn >>>>> defnyddio termau na fasai eu rhieni byth yn dychmygu eu defnyddio. Tasai'r >>>>> ysgolion yn defnyddio sgrifbin, dyna fasai'r plant yn ei ddefnyddio. Does >>>>> dim rhaid ei gladdu am ei fod wedi mynd allan o ffasiwn. >>>>> A does dim ffurf luosog i 'beiro' heb ychwanegu'r 's' Saesneg. >>>>> >>>>> Oes rhaid i sgrifbin fod yn hen deip steilus efo inc? >>>>> >>>>> 2014-11-20 15:42 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: >>>>>> >>>>>> Ond, wrth gyfieithu am bethau bob-dydd, mae rhyw fath o ddyletswydd >>>>>> arnon ni ddefnyddio iaith bob-dydd. >>>>>> Alla i ddim dychmygu defnyddio'r gair "(y)sgrifbin" wrth siarad â neb. >>>>>> Mae beiro'n cael ei ynganu yn y ffordd Gymraeg a'i dreiglo. >>>>>> >>>>>> Siân >>>>>> >>>>>> >>>>>> >>>>>> On 2014 Tach 20, at 12:51 PM, Eluned Mai wrote: >>>>>> >>>>>> Ia, o leiaf rydyn ni wedi gwneud hynny. Ond tybed ydy o'n ddigon da? >>>>>> Yn enwedig gan fod gennym ni air pwrpasol yn barod, y mae'r rhan fwyaf o >>>>>> bobl, am wn i, yn gwybod beth yw ei ystyr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei >>>>>> ddefnyddio. Mwya'n byd o eiriau benthyg rydyn ni'n eu mabwysiadu, lleia'n >>>>>> byd o gadarnleoedd fydd gennym ni i adeiladu arnyn nhw a bydd yr hen iaith >>>>>> yn dlotach ac yn wannach o'r herwydd. Dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud >>>>>> hynny i ryw raddau efo pethau cwbl newydd - ac roedd beiro'n gwbl newydd ar >>>>>> un adeg, ond bellach mae'n cael ei ddefnyddio am ysgrifbinnau sydd ddim yn >>>>>> feiros. Mae 'ysgrifbin' yn air bach hollgynhwysol. >>>>>> >>>>>> 2014-11-20 10:36 GMT+00:00 megan tomos <[log in to unmask]>: >>>>>>> >>>>>>> Mi ryden ni wedi Cymreigio'r ynganiad Saesneg o leiaf fel yr ydym wedi >>>>>>> ei wneud efo marmalade a sellotape. Ydi hynny ddim digon da? >>>>>>> >>>>>>> Tydi ynganiad y Ffrancod o weekend ddim byd tebyg i weekend y Saeson er >>>>>>> bod ein hwicend ni. Ond os yden ni'n ei dreiglo fel yna a oes angen inni >>>>>>> boeni. Onid 'gobaith mawr y ganrif', chwedl Jarman, ydi "dy jips" a >>>>>>> "nhiocled"? >>>>>>> >>>>>>> Megan >>>>>>> >>>>>>> ----Original message---- >>>>>>> From : [log in to unmask] >>>>>>> Date : 20/11/2014 - 10:07 (UTC) >>>>>>> >>>>>>> To : [log in to unmask] >>>>>>> Subject : Re: pen >>>>>>> >>>>>>> Ia, dwi'n gwybod. Meddwl oeddwn i tybed sut mae'r gair yn cael ei >>>>>>> ynganu mewn Hwngareg ac mai dyna ddylai'r sillafiad Cymraeg fod wedi'i >>>>>>> efelychu, nid yr ynganiad Seisnig. Mi driais i ddod o hyd i'r ynganiad ar y >>>>>>> We ac mi glywais i rywbeth tebyg i 'byro'. Does gen i ddim syniad a yw >>>>>>> hynny'n iawn ai peidio. A dwi'n gwybod na wnaiff y sillafiad Cymraeg fyth >>>>>>> newid rwan. Dim ond codi pwynt. Tybed a oes gwell sylfaen i adeiladwaith y >>>>>>> gair Cymraeg 'ysgrifbin' nag sydd i'r gair 'beiro'. Ac oherwydd hynny, mae >>>>>>> ganddo hawl gynhenid i eistedd yn gyfforddus ymysg ei gydeiriau i greu >>>>>>> mynegiant yn Gymraeg. >>>>>>> >>>>>>> 2014-11-19 18:38 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg >>>>>>> <[log in to unmask]>: >>>>>>>> >>>>>>>> Beiro nid byro rwyf wedi'i glywed eriod. >>>>>>>> ________________________________ >>>>>>>> From: Eluned Mai >>>>>>>> Sent: 19/11/2014 18:07 >>>>>>>> >>>>>>>> To: [log in to unmask] >>>>>>>> Subject: Re: pen >>>>>>>> >>>>>>>> Sut mae 'Biro' yn cael ei ynganu? Efallai mai 'byro' y dylai pobl >>>>>>>> ysgrifennu wrth ei ddefnyddio yn Gymraeg. >>>>>>>> >>>>>>>> 2014-11-19 17:17 GMT+00:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>: >>>>>>>>> >>>>>>>>> Nid gair Saesneg ydy biro mewn gwirionedd, ond gair Hwngareg (Biro >>>>>>>>> oedd enw cyfenw'r dyfeisydd). >>>>>>>>> Sent from my BlackBerry® wireless device >>>>>>>>> ________________________________ >>>>>>>>> From: anna gruffydd <[log in to unmask]> >>>>>>>>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]> >>>>>>>>> Date: Wed, 19 Nov 2014 17:45:26 +0100 >>>>>>>>> To: <[log in to unmask]> >>>>>>>>> ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]> >>>>>>>>> Subject: Re: pen >>>>>>>>> >>>>>>>>> Cytuno! Dwi heb eto gael canlyniad y bleidlais fely mi ddeuda i wrth >>>>>>>>> fy nghwsmer 'in bitwin' am ddefnyddio sgrifbin. >>>>>>>>> >>>>>>>>> Anna >>>>>>>>> >>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>>>>>>> Tread with care and not in haste! >>>>>>>>> >>>>>>>>> 2014-11-19 15:33 GMT+01:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>: >>>>>>>>>> >>>>>>>>>> Dwi'n siŵr mai cael ein gorfodi i gael ein haddysg trwy gyfrwng y >>>>>>>>>> Saesneg ers talwm sydd i gyfrif am yr holl bens a'r beiros 'ma. Ac wedyn >>>>>>>>>> roedd y rhai ddaeth yn athrawon ysgolion Cymraeg oedd wedi cael addysg trwy >>>>>>>>>> gyfrwng y Saesneg yn dal i ddefnyddio pens a beiros. Fel arall, dwi'n rhyw >>>>>>>>>> feddwl y basan ni i gyd yn defnyddio 'sgrifbinnau'. Ac mae o'n air bach >>>>>>>>>> digon hawdd ei ddeall a hawdd ei ddweud. Tasan nhw'n ailddechrau defnyddio >>>>>>>>>> 'sgrifbin' yn yr ysgol gynradd, fasa 'na ddim problem - mae plant yn >>>>>>>>>> defnyddio'r hyn maen nhw'n glywed. >>>>>>>>>> >>>>>>>>>> >>>>>>>>>> >>>>>>>>>> 2014-11-19 12:58 GMT+00:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>: >>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>> Dwi'n gwbod mai beiros ydyn nhw - ond rwan eu bod nhw di >>>>>>>>>>> penderfynnu pleidleisio y nhw pia dewis. >>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>> Anna >>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste! >>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>> 2014-11-19 12:46 GMT+01:00 Sian Roberts >>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>: >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Mae hon yn broblem. >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Mae beiro'n tueddu i feddwl un o'r pethau 'ma lle mae inc yn llifo >>>>>>>>>>>> dros bêl fach ar y pen ac mae pob math o wahanol ddyfeisiau sgrifennu i'w >>>>>>>>>>>> cael erbyn hyn. >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Ond mae "(y)sgrifbin" yn swnio dipyn fel cerbydres a diddosben - >>>>>>>>>>>> yn enwedig os ydyn ni'n sôn am bethau fel keyrings a phadiau ysgrifennu bach >>>>>>>>>>>> a sticeri ffenestri. >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Holi fyswn i, gan obeithio mai beiros ydyn nhw! >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Siân >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> On 2014 Tach 19, at 7:10 AM, anna gruffydd wrote: >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Diolch am y stori ddifyr! Dyna beth gwirion, ddaru mi ddim meddwl >>>>>>>>>>>> am dynnu'r 'y' a'i wneud yn 'sgrifbin' sy'n llawer llai llenyddol (er y >>>>>>>>>>>> byddaf bob amser yn sgwennu 'sgrifennu', byth 'ysgrifennu'. Sfrifbin yn taro >>>>>>>>>>>> deuddeg. Diolch. >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Anna >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste! >>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>> 2014-11-18 22:09 GMT+01:00 Eurwyn Pierce Jones >>>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>: >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Sgrifbin. A plîs peidied neb ag awgrymu mai 'pen' ddylai'r gair >>>>>>>>>>>>> fod yn y Gymraeg hefyd. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Yn fachgen un ar ddeg oed ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Ramadeg >>>>>>>>>>>>> Bechgyn y Bala (yr ysgol 'fawr' bondigrybwyll), dyna lle roeddwn i ymhlith >>>>>>>>>>>>> deg ar hugain o fechgyn diniwed eraill, yn ufudd gopïo oddi ar y bwrdd sialc >>>>>>>>>>>>> du ein gwers Hanes gyntaf un erioed yno, gan drosglwyddo’r cynnwys >>>>>>>>>>>>> cyfareddol oddi ar y 'bwrdd du' yn ddestlus i dudalen flaen lân ein llyfrau >>>>>>>>>>>>> gwersi ffrés. Roeddem ni i gyd fel petaem ni'n cael hwyl eithriadol arni >>>>>>>>>>>>> hi, mewn awyrgylch ddisgybledig a diogel o dawel - pob un â'i ysgrifbin >>>>>>>>>>>>> newydd sbon danlli (yr anrheg ddisgwyliedig am basio'r lefn plýs) yn ei law, >>>>>>>>>>>>> yn benodol ar gyfer cyflawni'r union orchwyl dan sylw. Ymhen y rhawg, >>>>>>>>>>>>> torrwyd ar y distawrwydd myfyriol gyda'r bonheddwr o athro yn galw allan >>>>>>>>>>>>> gydag awdurdod cwrtais, a awgrymai y dylem ni i gyd yn ein desgiau pren derw >>>>>>>>>>>>> ufuddhau iddo ar ein hunion - allan o ryw barchedig ofn dychrynllyd tuag ato >>>>>>>>>>>>> fo yn ogystal â'r sefydliad ysgolheigaidd yr oeddem ni i gyd erbyn hyn wedi >>>>>>>>>>>>> ein trylwyr fabwysiadu i mewn iddo. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> "Nawr te, fechgyn - eich sylw, bob un; dodwch eich pen ar y ddesg >>>>>>>>>>>>> am eiliad, os gwelwch chi'n dda" ebe'r deheuwr athrylithgar a safai'n >>>>>>>>>>>>> wynebu'r dosbarth o ddisgyblion eiddgar, pob un ohonom ni yn ein >>>>>>>>>>>>> hiwnifformau smartiaf erioed a gaed. Heb amau am chwinciad y gallai fod >>>>>>>>>>>>> unrhyw amwyster yn y byd i'r hyn a olygid wrth 'pen', i lawr yr aeth fy mhen >>>>>>>>>>>>> i ar ei union; hyd nes bod fy nhalcen a blaen fy nhrwyn a'm gên i gyd yn >>>>>>>>>>>>> gorffwys yn ddestlus o fflat ar ben y pentwr geiriau (eu hanner nhw'n gwbl >>>>>>>>>>>>> ddieithr i mi) roeddwn i newydd eu cofnodi yn fy llawysgrifen orau bosib ar >>>>>>>>>>>>> linellau glas y ddalen glaerwen flaenaf yn fy llyfr ysgrifennu. Yn ystod yr >>>>>>>>>>>>> ysbaid o lonyddwch disgwylgar a ddilynai, y cwbl a synhwyrwn i oedd troedio >>>>>>>>>>>>> pwyllog pâr o esgidiau oedolyn yn agosáu at fy nesg i, ac yn araf stopio >>>>>>>>>>>>> reit wrth fy ymyl i - doedd dim amheuaeth - fel pe'n gwbl fwriadol. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Yna'n ddisymwth o sydyn, cwympodd cledr llaw aeddfed ar gorun fy >>>>>>>>>>>>> mhen i fel crafanc eryr, bachodd coflaid o fysedd cryf am wallt fy nghopa >>>>>>>>>>>>> a'm codi gyda nerth braich craen mewn chwarel, nes peri i mi gael fy nghodi >>>>>>>>>>>>> bron yn llythrennol oddi ar sedd fy nesg un-darn derw. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> "Ac mi wela i bod gennym ni gomedïwr yn y dosbarth derbyn eleni, >>>>>>>>>>>>> oes e?", bloeddiodd yr athro'n wyllt gacwn i mewn i'm llygaid ofnus, cyn >>>>>>>>>>>>> gollwng ei afael arnaf a gadael i mi fownsio’n ôl i sedd dderw-galed fy >>>>>>>>>>>>> nesg. "Neu a oes angen i mi ddysgu rhywrai ohonoch chi bethau mor elfennol >>>>>>>>>>>>> â bod angen DAU ben arnoch chi yn yr Ysgol Ramadeg", taranodd ymlaen: "Un >>>>>>>>>>>>> pen i feddwl ag e'," meddai, gan guro fy mhen i â'i ddwrn yngháu. A chan >>>>>>>>>>>>> gydio yn fy ysgrifbin i â'i fysedd chwe modfedd o hyd, a'i hysgwyd yn >>>>>>>>>>>>> arddangosol (reit o flaen fy wyneb pinc, melyn a choch erbyn hyn), fel pe i >>>>>>>>>>>>> gyfnerthu ei bwynt, ychwanegodd: "... a phen arall i ysgrifennu'r meddyliau >>>>>>>>>>>>> hynny i lawr yn eich llyfrau gwaith!" >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Wn i ddim a oedd y deheuwr o athro hwnnw yn y fan a'r lle yn rhyw >>>>>>>>>>>>> lled-chwerthin wrtho ei hun wrth ymdrîn yn y fath fodd â gogleddwyr o blant >>>>>>>>>>>>> mor ddi-glem â nyni ym mherfeddion gogledd Cymru; ond chefais i ddim awgrym >>>>>>>>>>>>> o gwbl mai cellwair direidus a ysgogodd y wers y teimlodd ef y rheidrwydd >>>>>>>>>>>>> i'w chyflwyno i mi y prynhawn trawmatig hwnnw. A fentrais i erioed wedi >>>>>>>>>>>>> hynny ychwaith, i'w holi ef ymhellach ar y pwynt. Mae yna rai gwersi y >>>>>>>>>>>>> mae'n rhaid eu dysgu'n ostyngedig, bid siwr; cyn bwrw ymlaen wedi hynny â'r >>>>>>>>>>>>> gwaith gerbron - gydag agwedd ryw ychydig bach fwy goleuedig ar y mater. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Serch hynny, er gwaethaf y profiad cynnar hwnnw ymhlith y >>>>>>>>>>>>> dysgedigion cydnabyddedig sydd ohoni, 'ysgrifbin' fydd fy ngair Cymraeg >>>>>>>>>>>>> dewisol i am 'pen'. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Eurwyn. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>>>>>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna >>>>>>>>>>>>> gruffydd >>>>>>>>>>>>> Sent: 18 November 2014 18:12 >>>>>>>>>>>>> To: [log in to unmask] >>>>>>>>>>>>> Subject: Re: pen >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> ti'n iawn, beiro ydi o - felly dyna fasa galla ia? >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Anna >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste! >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> 2014-11-18 19:07 GMT+01:00 Dafydd Timothy >>>>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>: >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> beiro? >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 17:49, anna gruffydd wrote: >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> H.y. peth i sgwennu - >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Cyd-destun: nwyddau mae Cerddorfa'n eu gwerthu - >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> mae pen/pin sgrifennu yn swnio braidd yn hirwyntog i mi; mae >>>>>>>>>>>>> ysgrifbin yn llenyddol; mae pin dur ella'n rhy ogleddol (er mod i'n lecio >>>>>>>>>>>>> hwnna). Be mae plant yn arfer a'i glwad yn yr ysgol? Diolch >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Anna >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste! >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 15:33, Gwasg Helygain | Print | Design wrote: >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Diolch Dafydd >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Elli di checio tudalennau 1- 5 plis (dwi’n gadael tud 6 yn >>>>>>>>>>>>> Saesneg gan mai dyma;r iaith ar Facebook) >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Guto Lloyd-Davies >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Director >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Error! Filename not specified. >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl | >>>>>>>>>>>>> Denbighshire | LL18 1BP >>>>>>>>>>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com >>>>>>>>>>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office: >>>>>>>>>>>>> as above | Vat Reg No 289 3358 10 >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>>>>>>> >>>>>>>> >>>>>>>> >>>>>>>> [The entire original message is not included.] >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>> >>>>>> >>>>>> >>>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>> >>>> >>>> >>>> >>>> >>>> No virus found in this message. >>>> Checked by AVG - www.avg.com >>>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4213/8599 - Release Date: 11/20/14 >>> >>>