Dafydd, Gaf i ofyn pam rwyt ti'n defnyddio 'dauddeg' yn hytrach na 'dau ddeg', wyt ti'n ysgrifennu 'trideg' a 'pedwardeg' ac ati? Mantais arall i'r dull traddodiadol yw mai nhw yw'r ffurfiau sy'n sail i'r rhifau trefnol (1af, 2ail,... 12fed,13eg ac ati). Muiris 2014-11-18 11:58 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] >: > Mae'r ffurf orchmynnol yn gallu bod yn drwsgl weithiau. Fyddai 'chwiliwch > am y parau' neu 'tynnwch linell i gysylltu'r parau' yn gweithio? > > > > On 17 Nov 2014, at 20:47, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: > > ‘cydweddu’ sydd yn y Termiadur ysgol. > > > > Cofion > > > > Rhian > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Dafydd Timothy > *Sent:* 17 November 2014 19:12 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Awr+rhif > > > > Tra dwi yma.... > > find the *matching* pairs > *match* the times/fractions > > Be fase orau am '*match*' mewn cyd-destunau mathemategol - 'cydweddu' > sgen i ar hyn o bryd > > Diolch > Dafydd > > On 17/11/2014 18:42, Muiris Mag Ualghairg wrote: > > Pam osgoi'r dull naturiol o gyfrif? Roedd fy man yn cyfrif yn y dull > traddodiadol cyn iddo fynd o'r Ysgol yn bedair oed. Mater o arfer yw deall > bod un a'r bymtheg yn 16 ac ati. Mae peidio â chyflwuno'r iaith yn ei > chyfanrwydd yn arwain at iaith dlotach. > ------------------------------ > > *From: *Dafydd Timothy <[log in to unmask]> > *Sent: *17/11/2014 15:38 > *To: *[log in to unmask] > *Subject: *Awr+rhif > > Pnawn da... dyma un bach difyr... > > *(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg cynradd, felly dwi am osgoi dweud > 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn dderbyniol, ond 'dauddeg pedwar' > sy'n cael ei ddefnyddio).* > > gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb... > > ond... beth am: > - dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod) > a > - (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr > > Diolch, > Dafydd > > > > >