Print

Print


Un deg tri awr? Wir?
 
Mi wnes i ddysgu’r dull traddodiadol yn yr ysgol gynradd am wn i. Yn sicr doedden ni ddim yn defnyddio rhifau traddodiadol gartref (heblaw am ddweud yr amser – ugain munud wedi, pum’ ar hugain i, ac ati).
 
Dwi’n cytuno efo Muiris felly. Yn tydi ymennydd plant fel sbwng, yn gallu amsugno pob math o wybodaeth?
 
Geraint
 
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
Sent: Monday, November 17, 2014 7:36 PM
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Subject: Re: Awr+rhif
 

Dau ddeg pedwar, un deg tri ac ati maen nhw’n ei ddefnyddio yn y profion rhifedd cenedlaethol, os yw hynny’n unrhyw fath o linyn mesur.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 17 November 2014 18:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Awr+rhif

 

Pam osgoi'r dull naturiol o gyfrif? Roedd fy man yn cyfrif yn y dull traddodiadol cyn  iddo fynd o'r Ysgol yn bedair oed. Mater o arfer yw deall bod un a'r bymtheg yn 16 ac ati. Mae peidio â chyflwuno'r iaith yn ei chyfanrwydd yn arwain at iaith dlotach.


From: Dafydd Timothy
Sent: ‎17/‎11/‎2014 15:38
To: [log in to unmask]
Subject: Awr+rhif

Pnawn da... dyma un bach difyr...

(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg cynradd, felly dwi am osgoi dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn dderbyniol, ond 'dauddeg pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio).

gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...

ond... beth am:
- dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
a
- (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr

Diolch,
Dafydd


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4213/8570 - Release Date: 11/14/14