Cytuno!

Felicity

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: Thursday, November 20, 2014 11:21 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen

 

Mae’r ffaith ei fod yn treiglo (oes gen ti feiro) yn dangos ei fod wedi ymgartrefu yn yr iaith beth bynnag.

 

From: [log in to unmask]">Eluned Mai

Sent: Thursday, November 20, 2014 10:07 AM

Subject: Re: pen

 

Ia, dwi'n gwybod.  Meddwl oeddwn i tybed sut mae'r gair yn cael ei ynganu mewn Hwngareg ac mai dyna ddylai'r sillafiad Cymraeg fod wedi'i efelychu, nid yr ynganiad Seisnig.  Mi driais i ddod o hyd i'r ynganiad ar y We ac mi glywais i rywbeth tebyg i 'byro'.  Does gen i ddim syniad a yw hynny'n iawn ai peidio. A dwi'n gwybod na wnaiff y sillafiad Cymraeg fyth newid rwan.  Dim ond codi pwynt.  Tybed a oes gwell sylfaen i adeiladwaith y gair Cymraeg 'ysgrifbin' nag sydd i'r gair 'beiro'.  Ac oherwydd hynny, mae ganddo hawl gynhenid i eistedd yn gyfforddus ymysg ei gydeiriau i greu mynegiant yn Gymraeg.

 

2014-11-19 18:38 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>:

Beiro nid byro rwyf wedi'i glywed eriod.


From: Eluned Mai
Sent: ‎19/‎11/‎2014 18:07


To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen

Sut mae 'Biro' yn cael ei ynganu?  Efallai mai 'byro' y dylai pobl ysgrifennu wrth ei ddefnyddio yn Gymraeg.

 

2014-11-19 17:17 GMT+00:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>:

Nid gair Saesneg ydy biro mewn gwirionedd, ond gair Hwngareg (Biro oedd enw cyfenw'r dyfeisydd).

Sent from my BlackBerry® wireless device


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>

Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Date: Wed, 19 Nov 2014 17:45:26 +0100

ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Subject: Re: pen

 

Cytuno! Dwi heb eto gael canlyniad y bleidlais fely mi ddeuda i wrth fy nghwsmer 'in bitwin' am ddefnyddio sgrifbin.

 

Anna

 

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-11-19 15:33 GMT+01:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:

Dwi'n siŵr mai cael ein gorfodi i gael ein haddysg trwy gyfrwng y Saesneg ers talwm sydd i gyfrif am yr holl bens a'r beiros 'ma.  Ac wedyn roedd y rhai ddaeth yn athrawon ysgolion Cymraeg oedd wedi cael addysg trwy gyfrwng y Saesneg yn dal i ddefnyddio pens a beiros.  Fel arall, dwi'n rhyw feddwl y basan ni i gyd yn defnyddio 'sgrifbinnau'.  Ac mae o'n air bach digon hawdd ei ddeall a hawdd ei ddweud.  Tasan nhw'n ailddechrau defnyddio 'sgrifbin' yn yr ysgol gynradd, fasa 'na ddim problem - mae plant yn defnyddio'r hyn maen nhw'n glywed.

 

 

2014-11-19 12:58 GMT+00:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:

Dwi'n gwbod mai beiros ydyn nhw - ond rwan eu bod nhw di penderfynnu pleidleisio y nhw pia dewis.

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-11-19 12:46 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

Mae hon yn broblem.

 

Mae beiro'n tueddu i feddwl un o'r pethau 'ma lle mae inc yn llifo dros bêl fach ar y pen ac mae pob math o wahanol ddyfeisiau sgrifennu i'w cael erbyn hyn. 

 

Ond mae "(y)sgrifbin" yn swnio dipyn fel cerbydres a diddosben - yn enwedig os ydyn ni'n sôn am bethau fel keyrings a phadiau ysgrifennu bach a sticeri ffenestri.

 

Holi fyswn i, gan obeithio mai beiros ydyn nhw!

 

Siân

 

 

 

 

 

 

 

On 2014 Tach 19, at 7:10 AM, anna gruffydd wrote:



Diolch am y stori ddifyr! Dyna beth gwirion, ddaru mi ddim meddwl am dynnu'r 'y' a'i wneud yn 'sgrifbin' sy'n llawer llai llenyddol (er y byddaf bob amser yn sgwennu 'sgrifennu', byth 'ysgrifennu'. Sfrifbin yn taro deuddeg. Diolch.

 

Anna

 

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-11-18 22:09 GMT+01:00 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>:

Sgrifbin.   A plîs peidied neb ag awgrymu mai 'pen' ddylai'r gair fod yn y Gymraeg hefyd.

 

Yn fachgen un ar ddeg oed ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Ramadeg Bechgyn y Bala (yr ysgol 'fawr' bondigrybwyll), dyna lle roeddwn i ymhlith deg ar hugain o fechgyn diniwed eraill, yn ufudd gopïo oddi ar y bwrdd sialc du ein gwers Hanes gyntaf un erioed yno, gan drosglwyddo’r cynnwys cyfareddol oddi ar y 'bwrdd du' yn ddestlus i dudalen flaen lân ein llyfrau gwersi ffrés.  Roeddem ni i gyd fel petaem ni'n cael hwyl eithriadol arni hi, mewn awyrgylch ddisgybledig a diogel o dawel - pob un â'i ysgrifbin newydd sbon danlli (yr anrheg ddisgwyliedig am basio'r lefn plýs) yn ei law, yn benodol ar gyfer cyflawni'r union orchwyl dan sylw.  Ymhen y rhawg, torrwyd ar y distawrwydd myfyriol gyda'r bonheddwr o athro yn galw allan gydag awdurdod cwrtais, a awgrymai y dylem ni i gyd yn ein desgiau pren derw ufuddhau iddo ar ein hunion - allan o ryw barchedig ofn dychrynllyd tuag ato fo yn ogystal â'r sefydliad ysgolheigaidd yr oeddem ni i gyd erbyn hyn wedi ein trylwyr fabwysiadu i mewn iddo.

 

"Nawr te, fechgyn - eich sylw, bob un; dodwch eich pen ar y ddesg am eiliad, os gwelwch chi'n dda" ebe'r deheuwr athrylithgar a safai'n wynebu'r dosbarth o ddisgyblion eiddgar, pob un ohonom ni yn ein hiwnifformau smartiaf erioed a gaed.  Heb amau am chwinciad y gallai fod unrhyw amwyster yn y byd i'r hyn a olygid wrth 'pen', i lawr yr aeth fy mhen i ar ei union; hyd nes bod fy nhalcen a blaen fy nhrwyn a'm gên i gyd yn gorffwys yn ddestlus o fflat ar ben y pentwr geiriau (eu hanner nhw'n gwbl ddieithr i mi) roeddwn i newydd eu cofnodi yn fy llawysgrifen orau bosib ar linellau glas y ddalen glaerwen flaenaf yn fy llyfr ysgrifennu.  Yn ystod yr ysbaid o lonyddwch disgwylgar a ddilynai, y cwbl a synhwyrwn i oedd troedio pwyllog pâr o esgidiau oedolyn yn agosáu at fy nesg i, ac yn araf stopio reit wrth fy ymyl i - doedd dim amheuaeth - fel pe'n gwbl fwriadol. 

 

Yna'n ddisymwth o sydyn, cwympodd cledr llaw aeddfed ar gorun fy mhen i fel crafanc eryr, bachodd coflaid o fysedd cryf am wallt fy nghopa a'm codi gyda nerth braich craen mewn chwarel, nes peri i mi gael fy nghodi bron yn llythrennol oddi ar sedd fy nesg un-darn derw.

 

"Ac mi wela i bod gennym ni gomedïwr yn y dosbarth derbyn eleni, oes e?", bloeddiodd yr athro'n wyllt gacwn i mewn i'm llygaid ofnus, cyn gollwng ei afael arnaf a gadael i mi fownsio’n ôl i sedd dderw-galed fy nesg.  "Neu a oes angen i mi ddysgu rhywrai ohonoch chi bethau mor elfennol â bod angen DAU ben arnoch chi yn yr Ysgol Ramadeg", taranodd ymlaen:  "Un pen i feddwl ag e'," meddai, gan guro fy mhen i â'i ddwrn yngháu.  A chan gydio yn fy ysgrifbin i â'i fysedd chwe modfedd o hyd, a'i hysgwyd yn arddangosol (reit o flaen fy wyneb pinc, melyn a choch erbyn hyn), fel pe i gyfnerthu ei bwynt, ychwanegodd: "... a phen arall i ysgrifennu'r meddyliau hynny i lawr yn eich llyfrau gwaith!"

 

Wn i ddim a oedd y deheuwr o athro hwnnw yn y fan a'r lle yn rhyw lled-chwerthin wrtho ei hun wrth ymdrîn yn y fath fodd â gogleddwyr o blant mor ddi-glem â nyni ym mherfeddion gogledd Cymru; ond chefais i ddim awgrym o gwbl mai cellwair direidus a ysgogodd y wers y teimlodd ef y rheidrwydd i'w chyflwyno i mi y prynhawn trawmatig hwnnw.  A fentrais i erioed wedi hynny ychwaith, i'w holi ef ymhellach ar y pwynt.  Mae yna rai gwersi y mae'n rhaid eu dysgu'n ostyngedig, bid siwr; cyn bwrw ymlaen wedi hynny â'r gwaith gerbron - gydag agwedd ryw ychydig bach fwy goleuedig ar y mater.

 

Serch hynny, er gwaethaf y profiad cynnar hwnnw ymhlith y dysgedigion cydnabyddedig sydd ohoni, 'ysgrifbin' fydd fy ngair Cymraeg dewisol i am 'pen'.

 

Eurwyn.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 18 November 2014 18:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen

 

ti'n iawn, beiro ydi o - felly dyna fasa galla ia?

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-11-18 19:07 GMT+01:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:

beiro?

On 18/11/2014 17:49, anna gruffydd wrote:

H.y. peth i sgwennu - 

 

Cyd-destun: nwyddau mae Cerddorfa'n eu gwerthu -

 

mae pen/pin sgrifennu yn swnio braidd yn hirwyntog i mi; mae ysgrifbin yn llenyddol; mae pin dur ella'n rhy ogleddol (er mod i'n lecio hwnna). Be mae plant yn arfer a'i glwad yn yr ysgol? Diolch

 

Anna

 

 

 

 

 

 


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

On 18/11/2014 15:33, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:

Diolch Dafydd

 

Elli di checio tudalennau 1- 5 plis (dwi’n gadael tud 6 yn Saesneg gan mai dyma;r iaith ar Facebook)

 

Guto Lloyd-Davies

Director

 

Error! Filename not specified.

Gwasg Helygain Ltd  |  Rear of 24 Elwy Street  |  Rhyl  |  Denbighshire  |  LL18 1BP
01745 331411  |  [log in to unmask]
  |  www.gwasg.com
LinkedIn | Facebook | Twitter

Registered In England & Wales No 3281399  |  Registered Office: as above   |  Vat Reg No 289 3358 10

 

 

[The entire original message is not included.]

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4213/8595 - Release Date: 11/19/14