[log in to unmask]" type="cite">Dafydd,
Gaf i ofyn pam rwyt ti'n defnyddio 'dauddeg' yn hytrach na 'dau ddeg', wyt ti'n ysgrifennu 'trideg' a 'pedwardeg' ac ati?
Mantais arall i'r dull traddodiadol yw mai nhw yw'r ffurfiau sy'n sail i'r rhifau trefnol (1af, 2ail,... 12fed,13eg ac ati).
Muiris
2014-11-18 11:58 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:
Mae'r ffurf orchmynnol yn gallu bod yn drwsgl weithiau. Fyddai 'chwiliwch am y parau' neu 'tynnwch linell i gysylltu'r parau' yn gweithio?
‘cydweddu’ sydd yn y Termiadur ysgol.
Cofion
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 17 November 2014 19:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Awr+rhif
Tra dwi yma....
find the matching pairs
match the times/fractions
Be fase orau am 'match' mewn cyd-destunau mathemategol - 'cydweddu' sgen i ar hyn o bryd
Diolch
Dafydd
On 17/11/2014 18:42, Muiris Mag Ualghairg wrote:
Pam osgoi'r dull naturiol o gyfrif? Roedd fy man yn cyfrif yn y dull traddodiadol cyn iddo fynd o'r Ysgol yn bedair oed. Mater o arfer yw deall bod un a'r bymtheg yn 16 ac ati. Mae peidio â chyflwuno'r iaith yn ei chyfanrwydd yn arwain at iaith dlotach.
From: Dafydd Timothy
Sent: 17/11/2014 15:38
To: [log in to unmask]
Subject: Awr+rhifPnawn da... dyma un bach difyr...
(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg cynradd, felly dwi am osgoi dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn dderbyniol, ond 'dauddeg pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio).
gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...
ond... beth am:
- dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
a
- (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr
Diolch,
Dafydd