On 17/11/2014 15:21, Dafydd Timothy
wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Pnawn da... dyma un bach difyr...
(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg cynradd, felly
dwi am osgoi dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn
dderbyniol, ond 'dauddeg pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio).
gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...
ond... beth am:
- dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
a
- (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr
Diolch,
Dafydd
Nodyn bach ychwanegol o lyfr J Elwyn Hughes - mae e'n dweud nad yw'n
ramadegol gywir i ddweud dau ddeg pedwar punt etc ond 'gan fod pobl
yn dueddol o ystyried y rhifau hyn gydag arian yn unedau cyfansawdd
ac yn annibynnol rywsut ar yr hyn sy'n dilyn, gan osgoi unrhyw
dreiglad a hefyd osgoi defnyddio'r ffurfiau benywaidd dwy, tair, a
pedair. '
Ond wedyn mae'n dweud 'nad oes dim o'i le ar ddefnyddio'r ffurfiau
benywaidd priodol lle bo angen hynny gan dreiglo'n gywir ar eu
holau' (tud.13.1). Mae'n rhoi enghreifftiau gydag arian ac efallai
bod hynny'r un mor ddilys gydag 'awr'?