Print

Print


On 17/11/2014 15:21, Dafydd Timothy wrote:
> Pnawn da... dyma un bach difyr...
>
> /(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg *cynradd*, felly dwi am osgoi 
> dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn dderbyniol, ond 
> 'dauddeg pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio)./
>
> gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...
>
> ond... beth am:
>  - dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
> a
>  - (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
>
Nodyn bach ychwanegol o lyfr J Elwyn Hughes - mae e'n dweud nad yw'n 
ramadegol gywir i ddweud dau ddeg pedwar punt etc ond 'gan fod pobl yn 
dueddol o ystyried y rhifau hyn gydag arian yn unedau cyfansawdd ac yn 
annibynnol rywsut ar yr hyn sy'n dilyn, gan osgoi unrhyw dreiglad a 
hefyd osgoi defnyddio'r ffurfiau benywaidd dwy, tair, a pedair. '
Ond wedyn mae'n dweud 'nad oes dim o'i le ar ddefnyddio'r  ffurfiau 
benywaidd priodol lle bo angen hynny gan dreiglo'n gywir ar eu holau' 
(tud.13.1). Mae'n rhoi enghreifftiau gydag arian ac efallai bod hynny'r 
un mor ddilys gydag 'awr'?