Pnawn da... dyma un bach difyr...
(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg cynradd, felly
dwi am osgoi dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn
dderbyniol, ond 'dauddeg pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio).
gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...
ond... beth am:
- dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
a
- (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr
Diolch,
Dafydd