Print

Print


Pnawn da... dyma un bach difyr...

/(Y cyd-destun ydi cwestiynau mathemateg *cynradd*, felly dwi am osgoi 
dweud 'pedair awr ar hugain'. Mae 'deuddeg' yn dderbyniol, ond 'dauddeg 
pedwar' sy'n cael ei ddefnyddio)./

gwn mai benywaidd ydi 'awr', sef dwy awr, tair awr ayyb...

ond... beth am:
  - dauddeg pedwar/pedair awr (mewn diwrnod)
a
  - (cloc) dauddeg pedwar/pedair awr

Diolch,
Dafydd