Cyflwyniad i Hanes Llafar
Ty Tredegar (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
23 Ionawr 2015
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd / archifdai / llyfrgelloedd a gwirfoddolwyr sydd:
- Yn meddwl am gynnal / bod yn rhan o brosiect hanes llafar
- Yn delio â chasgliadau hanes llafar
Nod
Nod y cwrs hwn yw archwilio ffyrdd o gynnal a recordio cyfweliadau hanes llafar. Bydd hyn yn cynnwys trin gwahanol fathau o offer i’w defnyddio.
Erbyn diwedd y cwrs bydd yr aelodau:
- Wedi cael cyflwyniad anffurfiol ac ymarferol i gyfweliadau hanes llafar
- Wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â’r offer recordio a thrafod rhai o’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â hanes llafar, straeon bywyd a chof.
Y Dulliau Hyfforddi
- Cyflwyniad clyweled
- Gwaith ymarferol
- Trafodaeth grŵp
Y paratoi
Os oes gan y rheini sy’n dod ar y cwrs eisoes offer recordio y bwriadant ei ddefnyddio, mae croeso iddynt ddod ag ef i’r cwrs, yn ddelfrydol gyda’r cyfarwyddiadau ar sut i’w ddefnyddio.
Yr hyfforddwr: Beth Thomas
Ceidwad Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Is-gadeirydd, Cynrychiolydd Rhwydwaith Rhanbarthol y Gymdeithas Hanes Llafar; hyfforddwr achrededig i’r Gymdeithas Hanes Llafar/Llyfrgell Brydeinig.
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd
i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno,
ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.
Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]
neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261