Wel ia - mae hynna'n gwneud i chi feddwl!  Dwi ddim yn meddwl glywais i 'ein Hiôr ni' yn cael ei ddweud erioed ac mae o'n edrych yn od.  Ac mae 'eu hehangu' yn anodd iawn i'w ddweud, yr un fath ag 'eu harholiadau'.  Ac er mwyn gwneud y dweud yn haws y mae'r 'h' i fod yna yn y lle cyntaf, ia?  Tybed oes 'na reswm yn rhywle sy'n gwneud rhai geiriau sy'n dechrau efo llafariaid yn wahanol.  Ar un adeg roeddwn i'n meddwl tybed a oedd 'arholiad' yn wahanol am ei fod wedi ei greu allan o 'ar' + 'holiad' ond dim ond syniad oedd hynny. 



2014-10-06 23:27 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Adrodd yr Wythfed Salm yn Capel neithiwr - "Arglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear" a chofio am y drafodaeth ar "eu hehangu".  Ai yr un peth sy'n digwydd yma - osgoi ychwanegu "h" am ei fod yn swnio'n chwithig?
Feddyliais i efallai mai'r "i" gytsain oedd y rheswm ond rŷn ni'n dweud "ein hiechyd".

Dim ond meddwl!

Siân