Y peth yw, mae ‘dyfarniad’ cael ei ddefnyddio ar gyfer ‘award’ ym maes cymwysterau.
Ac, wrth gwrs, am ‘ruling’, ‘judgement’, ‘adjudication’ ac ati.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 30 October 2014 12:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award/s
O'n i ddim wedi dod ar draws dyfarndaliadau o'r blaen. Be am dyfarniadau..?
Osian
Ar 30 Hydref 2014 am 12:20, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Diffiniad Rhydychen:
“An amount of money given as an official payment, compensation , or grant”:
Yr ystyr debyg i ‘grant’ sydd dan sylw y tro hwn.
Mae cynllun gan Tesco, er enghraifft. “The Tesco Charity Trust Community Awards scheme provides one-off donations of between £500 and £2,500.”
“Dyfarndaliadau” yw’r term, hyd y gwn i, yn achos iawndal. Ydi’n tycio yma? Beth am “rhoddion ariannol” - bach yn hir efallai?
Dwi ddim yn meddwl y galla i ddefnyddio ‘grantiau’ gan ‘grants’ yw’r gair Saesneg.
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.