Print

Print


Beth am 'llawr adlamol/adlamu'?  Dyna mae'r llawr a'r dawnsiwr, yn aml, yn
ei wneud.  Mae'r ffordd mae'r llawr wedi'i adeiladu yn ei wneud yn hydwyth,
sy'n caniatáu iddo dderbyn pwysau'r dawnsiwr wrth i'w droed lanio, ac, yna,yn
adlamu'n ôl i'w ffurf wreiddiol, sy'n rhoi hwb i ynni'r dawnsiwr lamu'n ôl
i'r gwagle, neu rywbeth tebyg i hynny.



2014-10-24 10:20 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

> Swnio'n dda! Dwi'n meddwl y byddai "sbringog" / "lled-sbringog" yn
> gweithio.
> Efallai bod "ystwyth" yn awgrymu ei fod yn fwy hyblyg nag ydyw?
>
> Meddwl swn i'n osgoi "crog" - Fe allech chi gael brawddeg fel "Some sprung
> floors are suspended floors and others are laid on a layer of foam".
>
> Cofion
>
> Siân
>
>
> On 2014 Hyd 24, at 10:03 AM, Neil Shadrach wrote:
>
> > Yn ôl ei phrospectws mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe "llawr
> > sbringog". A fyddai "lled-sbringog" yn bosibilrwydd?
> > Efallai byddai "(lled)ystwyth" yn opsiwn arall
> >
> > 2014-10-24 9:45 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> >> Hwnnw'n swnio'n addawol - achos mae 'na wahaniaeth rhwng "llawr sbring"
> a "llawr sbrings".
> >> Tybed beth fyddai "semi-sprung floor" felly?
> >> A neb i ddweud "llawr sbr"!
> >>
> >> Siân
> >>
> >>
> >> On 2014 Hyd 24, at 9:16 AM, Neil Shadrach wrote:
> >>
> >>> Nifer o enghreifftiau o "llawr sbring" ar wefannau cyrff addysg,
> >>> hamdden a llywodraeth
> >>>
> >>> 2014-10-23 23:05 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> >>>> Dim ei fod yn fater o'r pwys mwyaf ond …
> >>>> Tyswn i'n gweld "llawr crog" swn i'n ei ddeall ac yn ei gyfieithu fel
> >>>> "suspended floor" - ond efallai mai ar wely o stwff meddal y mae. Ac
> mae
> >>>> "suspended floor" yn fath o lawr sy'n wahanol i "sprung floor" - beth
> fydden
> >>>> ni'n galw hwnnw?
> >>>> Mi ddes i ar draws "semi-sprung dance floor" ryw dro.
> >>>> Mewn darn cyffredinol ar gyfer y cyhoedd, fe ddywedais i "llawr dawns
> >>>> arbennig" - gair bach handi yw "arbennig" - ac mewn darn ar gyfer
> pobl allai
> >>>> fod yn dymuno llogi'r ystafell, mi ddywedais "llawr dawns
> 'semi-sprung'"
> >>>>
> >>>> Ond swn i ddim yn mynd i ffraeo am y peth!
> >>>>
> >>>> Siân
> >>>>
> >>>>
> >>>> On 2014 Hyd 23, at 7:05 PM, anna gruffydd wrote:
> >>>>
> >>>> Diolch - mi ddyla fod yn ddigon amlwg i ddawnsiwr sut fath o lawr sy
> dan
> >>>> sylw, waeth sut y'i gwnaed. Dyna sy wedi mynd a hi bellach beth
> bynnag.
> >>>>
> >>>> Anna
> >>>>
> >>>> Ye who opt for cut'n'paste
> >>>> Tread with care and not in haste!
> >>>>
> >>>> 2014-10-23 16:51 GMT+02:00 Geraint Lovgreen
> >>>> <[log in to unmask]>:
> >>>>>
> >>>>> Dwi’n meddwl bod ‘llawr crog’ yn derm cyffredinol digon derbyniol am
> y
> >>>>> lloriau hyn heb ystyried manylion eu gwneuthuriad.
> >>>>>
> >>>>> From: Sian Roberts
> >>>>> Sent: Thursday, October 23, 2014 3:16 PM
> >>>>> To: [log in to unmask]
> >>>>> Subject: Re: sprung floor
> >>>>>
> >>>>> Ie - ond dydyn nhw ddim bob amser yn lloriau crog, dw i ddim yn
> meddwl -
> >>>>> fel mae'n dweud yn y diffiniad. A dydi hi ddim yn glir i mi o wefan
> >>>>> Harlequin ydi hwn yn un crog ai peidio.
> >>>>>
> >>>>> Fyse "llawr dawns pren arbennig 'Liberty' gan Harlequin" yn gwneud y
> tro?
> >>>>>
> >>>>> Siân
> >>>>>
> >>>>> On 2014 Hyd 23, at 2:30 PM, Sioned Graham-Cameron wrote:
> >>>>>
> >>>>> O roi "llawr crog dawnsio" yn Google, mae nifer o enghreifftiau i'w
> gweld,
> >>>>> ond dydw i ddim yn arbenigwr!
> >>>>>
> >>>>> Sioned
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>> On 23 Oct 2014, at 14:17, anna gruffydd wrote:
> >>>>>
> >>>>> Cyd-destun: The Ballet Cymru dance studio is fitted with a 196 square
> >>>>> metre (14m x 14m) Harlequin ‘Liberty’ sprung wooden dance floor
> >>>>>
> >>>>> Diffiniad Wiki:- A sprung floor is a floor that absorbs shocks,
> giving it
> >>>>> a softer feel. Such floors are considered the best available for
> dance and
> >>>>> indoor sports and physical education. They enhance performance and
> greatly
> >>>>> reduce injuries. Modern sprung floors are supported by foam backing
> or
> >>>>> rubber feet, while traditional floors provide their spring through
> bending
> >>>>> woven wooden battens.
> >>>>>
> >>>>> O blith y cynigion yn GyrA dwn i ddim prun sydd fwyaf addas. Diolch
> >>>>>
> >>>>> Anna
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>>
> >>>>> No virus found in this message.
> >>>>> Checked by AVG - www.avg.com
> >>>>> Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8439 - Release Date:
> 10/23/14
> >>>>
> >>>>
> >>>>
>