Swnio'n dda! Dwi'n meddwl y byddai "sbringog" / "lled-sbringog" yn gweithio. Efallai bod "ystwyth" yn awgrymu ei fod yn fwy hyblyg nag ydyw? Meddwl swn i'n osgoi "crog" - Fe allech chi gael brawddeg fel "Some sprung floors are suspended floors and others are laid on a layer of foam". Cofion Siân On 2014 Hyd 24, at 10:03 AM, Neil Shadrach wrote: > Yn ôl ei phrospectws mae gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe "llawr > sbringog". A fyddai "lled-sbringog" yn bosibilrwydd? > Efallai byddai "(lled)ystwyth" yn opsiwn arall > > 2014-10-24 9:45 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: >> Hwnnw'n swnio'n addawol - achos mae 'na wahaniaeth rhwng "llawr sbring" a "llawr sbrings". >> Tybed beth fyddai "semi-sprung floor" felly? >> A neb i ddweud "llawr sbr"! >> >> Siân >> >> >> On 2014 Hyd 24, at 9:16 AM, Neil Shadrach wrote: >> >>> Nifer o enghreifftiau o "llawr sbring" ar wefannau cyrff addysg, >>> hamdden a llywodraeth >>> >>> 2014-10-23 23:05 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: >>>> Dim ei fod yn fater o'r pwys mwyaf ond … >>>> Tyswn i'n gweld "llawr crog" swn i'n ei ddeall ac yn ei gyfieithu fel >>>> "suspended floor" - ond efallai mai ar wely o stwff meddal y mae. Ac mae >>>> "suspended floor" yn fath o lawr sy'n wahanol i "sprung floor" - beth fydden >>>> ni'n galw hwnnw? >>>> Mi ddes i ar draws "semi-sprung dance floor" ryw dro. >>>> Mewn darn cyffredinol ar gyfer y cyhoedd, fe ddywedais i "llawr dawns >>>> arbennig" - gair bach handi yw "arbennig" - ac mewn darn ar gyfer pobl allai >>>> fod yn dymuno llogi'r ystafell, mi ddywedais "llawr dawns 'semi-sprung'" >>>> >>>> Ond swn i ddim yn mynd i ffraeo am y peth! >>>> >>>> Siân >>>> >>>> >>>> On 2014 Hyd 23, at 7:05 PM, anna gruffydd wrote: >>>> >>>> Diolch - mi ddyla fod yn ddigon amlwg i ddawnsiwr sut fath o lawr sy dan >>>> sylw, waeth sut y'i gwnaed. Dyna sy wedi mynd a hi bellach beth bynnag. >>>> >>>> Anna >>>> >>>> Ye who opt for cut'n'paste >>>> Tread with care and not in haste! >>>> >>>> 2014-10-23 16:51 GMT+02:00 Geraint Lovgreen >>>> <[log in to unmask]>: >>>>> >>>>> Dwi’n meddwl bod ‘llawr crog’ yn derm cyffredinol digon derbyniol am y >>>>> lloriau hyn heb ystyried manylion eu gwneuthuriad. >>>>> >>>>> From: Sian Roberts >>>>> Sent: Thursday, October 23, 2014 3:16 PM >>>>> To: [log in to unmask] >>>>> Subject: Re: sprung floor >>>>> >>>>> Ie - ond dydyn nhw ddim bob amser yn lloriau crog, dw i ddim yn meddwl - >>>>> fel mae'n dweud yn y diffiniad. A dydi hi ddim yn glir i mi o wefan >>>>> Harlequin ydi hwn yn un crog ai peidio. >>>>> >>>>> Fyse "llawr dawns pren arbennig 'Liberty' gan Harlequin" yn gwneud y tro? >>>>> >>>>> Siân >>>>> >>>>> On 2014 Hyd 23, at 2:30 PM, Sioned Graham-Cameron wrote: >>>>> >>>>> O roi "llawr crog dawnsio" yn Google, mae nifer o enghreifftiau i'w gweld, >>>>> ond dydw i ddim yn arbenigwr! >>>>> >>>>> Sioned >>>>> >>>>> >>>>> On 23 Oct 2014, at 14:17, anna gruffydd wrote: >>>>> >>>>> Cyd-destun: The Ballet Cymru dance studio is fitted with a 196 square >>>>> metre (14m x 14m) Harlequin ‘Liberty’ sprung wooden dance floor >>>>> >>>>> Diffiniad Wiki:- A sprung floor is a floor that absorbs shocks, giving it >>>>> a softer feel. Such floors are considered the best available for dance and >>>>> indoor sports and physical education. They enhance performance and greatly >>>>> reduce injuries. Modern sprung floors are supported by foam backing or >>>>> rubber feet, while traditional floors provide their spring through bending >>>>> woven wooden battens. >>>>> >>>>> O blith y cynigion yn GyrA dwn i ddim prun sydd fwyaf addas. Diolch >>>>> >>>>> Anna >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> No virus found in this message. >>>>> Checked by AVG - www.avg.com >>>>> Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8439 - Release Date: 10/23/14 >>>> >>>> >>>>