Hwnnw'n swnio'n addawol - achos mae 'na wahaniaeth rhwng "llawr sbring" a "llawr sbrings". Tybed beth fyddai "semi-sprung floor" felly? A neb i ddweud "llawr sbr"! Siân On 2014 Hyd 24, at 9:16 AM, Neil Shadrach wrote: > Nifer o enghreifftiau o "llawr sbring" ar wefannau cyrff addysg, > hamdden a llywodraeth > > 2014-10-23 23:05 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: >> Dim ei fod yn fater o'r pwys mwyaf ond … >> Tyswn i'n gweld "llawr crog" swn i'n ei ddeall ac yn ei gyfieithu fel >> "suspended floor" - ond efallai mai ar wely o stwff meddal y mae. Ac mae >> "suspended floor" yn fath o lawr sy'n wahanol i "sprung floor" - beth fydden >> ni'n galw hwnnw? >> Mi ddes i ar draws "semi-sprung dance floor" ryw dro. >> Mewn darn cyffredinol ar gyfer y cyhoedd, fe ddywedais i "llawr dawns >> arbennig" - gair bach handi yw "arbennig" - ac mewn darn ar gyfer pobl allai >> fod yn dymuno llogi'r ystafell, mi ddywedais "llawr dawns 'semi-sprung'" >> >> Ond swn i ddim yn mynd i ffraeo am y peth! >> >> Siân >> >> >> On 2014 Hyd 23, at 7:05 PM, anna gruffydd wrote: >> >> Diolch - mi ddyla fod yn ddigon amlwg i ddawnsiwr sut fath o lawr sy dan >> sylw, waeth sut y'i gwnaed. Dyna sy wedi mynd a hi bellach beth bynnag. >> >> Anna >> >> Ye who opt for cut'n'paste >> Tread with care and not in haste! >> >> 2014-10-23 16:51 GMT+02:00 Geraint Lovgreen >> <[log in to unmask]>: >>> >>> Dwi’n meddwl bod ‘llawr crog’ yn derm cyffredinol digon derbyniol am y >>> lloriau hyn heb ystyried manylion eu gwneuthuriad. >>> >>> From: Sian Roberts >>> Sent: Thursday, October 23, 2014 3:16 PM >>> To: [log in to unmask] >>> Subject: Re: sprung floor >>> >>> Ie - ond dydyn nhw ddim bob amser yn lloriau crog, dw i ddim yn meddwl - >>> fel mae'n dweud yn y diffiniad. A dydi hi ddim yn glir i mi o wefan >>> Harlequin ydi hwn yn un crog ai peidio. >>> >>> Fyse "llawr dawns pren arbennig 'Liberty' gan Harlequin" yn gwneud y tro? >>> >>> Siân >>> >>> On 2014 Hyd 23, at 2:30 PM, Sioned Graham-Cameron wrote: >>> >>> O roi "llawr crog dawnsio" yn Google, mae nifer o enghreifftiau i'w gweld, >>> ond dydw i ddim yn arbenigwr! >>> >>> Sioned >>> >>> >>> On 23 Oct 2014, at 14:17, anna gruffydd wrote: >>> >>> Cyd-destun: The Ballet Cymru dance studio is fitted with a 196 square >>> metre (14m x 14m) Harlequin ‘Liberty’ sprung wooden dance floor >>> >>> Diffiniad Wiki:- A sprung floor is a floor that absorbs shocks, giving it >>> a softer feel. Such floors are considered the best available for dance and >>> indoor sports and physical education. They enhance performance and greatly >>> reduce injuries. Modern sprung floors are supported by foam backing or >>> rubber feet, while traditional floors provide their spring through bending >>> woven wooden battens. >>> >>> O blith y cynigion yn GyrA dwn i ddim prun sydd fwyaf addas. Diolch >>> >>> Anna >>> >>> >>> >>> >>> >>> >>> No virus found in this message. >>> Checked by AVG - www.avg.com >>> Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8439 - Release Date: 10/23/14 >> >> >>