Dwi'n gyndyn iawn o gyfieithu enwau strydoedd heblaw rhai sy'n amlwg ar y ffordd i rywle, fel Heol Caerfyrddin, a hyd yn oed wedyn mae "Lôn/Ffordd" yn gallu achosi dryswch yn y gogledd.
Mae hyd yn oed rai "amlwg" yn gallu bod yn gamarweiniol e.e. Stryd Uchel yw High Street yn Aberystwyth.
Mae pob math o ddryswch yn gallu digwydd e.e. mae Sand Street a Lôn Dywod ym Mhwllheli ond nid yr un un ydyn nhw.
Ac, yn ôl
fy nhad slawer dydd, does gan bostmyn ddim llawer o fynedd â phobl sy'n defnyddio cyfeiriadau Cymraeg - efallai eu bod nhw'n fwy goleuedig erbyn hyn!
Siân
On 2014 Hyd 23, at 9:46 AM, Geraint Lovgreen wrote:
Mae South Stack Road yn fwy o ddisgrifiad nag enw felly dwi’n siwr y byddai
Ffordd Ynys Lawd yn iawn. New Park Road yn anoddach – Ffordd y Parc Newydd? Lôn
Parc Newydd? Mae ‘Lôn’ yn fwy cyffredin na ‘ffordd’ yn Sir Fôn dydi? Neu gwell
ei adael yn ‘New Park Road’?
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow" ymailto="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
Sent: Thursday, October 23, 2014 9:23 AM
Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi
Diolch Geraint - dyna'r argraff gefais innau - rhai enwau yn Gymraeg, ac
eraill yn Saesneg. Ond debyg y byddai cyfieithu "Road" yn "Ffordd" yn
dderbyniol?
Dwi’n cael Gwgl Streetview yn ddefnyddiol iawn yn y pethau hyn. Es i Pump
Street rwan a gweld mai dim ond enw Saesneg sydd ar honno a Millbank (sic).
Mae’n debyg fod enwau strydoedd Caergybi naill ai’n Saesneg neu’n Gymraeg. Ond
maen nhw’n hen hen arwyddion felly pwy a wyr.
Geraint
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow" ymailto="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
Sent: Thursday, October 23, 2014 6:07 AM
Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi
Yn bennaf, South Stack Road, New Park Road, Pump Street a Mill Bank. Mae
yna rai eraill, ond dwi'n cymryd bod "Road" yn troi'n "Ffordd" fel arfer?
"Terrace" yn "Rhes" ta "Teras"?
Diolch am unrhyw help!
Be oeddat ti isio Meg?
Cofion
Bethan
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow" ymailto="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
Sent: Wednesday, October 22, 2014 7:59 PM
Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi
Diolch Sian, dria'i rhain - ond mi fydd braidd yn boenus eu gwneud fesul
un....
Well na dim, sbo!
Ti wedi treio
royalmail.com ?
Neu Google Streetview?
Y ddau yn gallu helpu - ond nid bob amser!
Siân
On 2014 Hyd 22, at 7:36 PM, MEG ELIS wrote:
Help - dwi isio rhain ar frys - wedi meddwl eu bod nhw gen i, ond tydyn
nhw ddim! Fawr o help o wefan CS Ynys Môn - oes yna ffynhonnell arall neu
Fonwysyn ffeind all helpu?
Diolch ymlaen llaw.
No virus found in this message.
Checked by AVG -
http://www.avg.com/Version: 2015.0.5315 / Virus Database:
4181/8427 - Release Date:
10/21/14
No virus found in this
message.
Checked by AVG -
http://www.avg.com/Version: 2015.0.5315 / Virus
Database: 4181/8427 - Release Date: 10/21/14