Dwi'n tueddu i deimlo'r un fath. Falle ei bod hi'n werth gofyn i'r cwsmer. Ges i brofiad o gyfieithu map beth amser yn ôl, ac ar ôl mynd trwy Google maps am oriau i wneud yn siwr fod enwau'r strydoedd fel ag yr oedden nhw yn y dref, penderfynodd y cwsmer eu gadael nhw'n Saesneg!! Melanie ________________________________ From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, 23 October 2014, 10:55 Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Dwi'n gyndyn iawn o gyfieithu enwau strydoedd heblaw rhai sy'n amlwg ar y ffordd i rywle, fel Heol Caerfyrddin, a hyd yn oed wedyn mae "Lôn/Ffordd" yn gallu achosi dryswch yn y gogledd. Mae hyd yn oed rai "amlwg" yn gallu bod yn gamarweiniol e.e. Stryd Uchel yw High Street yn Aberystwyth. Mae pob math o ddryswch yn gallu digwydd e.e. mae Sand Street a Lôn Dywod ym Mhwllheli ond nid yr un un ydyn nhw. Ac, yn ôl fy nhad slawer dydd, does gan bostmyn ddim llawer o fynedd â phobl sy'n defnyddio cyfeiriadau Cymraeg - efallai eu bod nhw'n fwy goleuedig erbyn hyn! Siân On 2014 Hyd 23, at 9:46 AM, Geraint Lovgreen wrote: Mae South Stack Road yn fwy o ddisgrifiad nag enw felly dwi’n siwr y byddai Ffordd Ynys Lawd yn iawn. New Park Road yn anoddach – Ffordd y Parc Newydd? Lôn Parc Newydd? Mae ‘Lôn’ yn fwy cyffredin na ‘ffordd’ yn Sir Fôn dydi? Neu gwell ei adael yn ‘New Park Road’? > >From: MEG ELIS >Sent: Thursday, October 23, 2014 9:23 AM >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > >Diolch Geraint - dyna'r argraff gefais innau - rhai enwau yn Gymraeg, ac eraill yn Saesneg. Ond debyg y byddai cyfieithu "Road" yn "Ffordd" yn dderbyniol? > > >________________________________ >From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Sent: Thursday, 23 October 2014, 9:16 >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > > > >Dwi’n cael Gwgl Streetview yn ddefnyddiol iawn yn y pethau hyn. Es i Pump Street rwan a gweld mai dim ond enw Saesneg sydd ar honno a Millbank (sic). Mae’n debyg fod enwau strydoedd Caergybi naill ai’n Saesneg neu’n Gymraeg. Ond maen nhw’n hen hen arwyddion felly pwy a wyr. > >Geraint > >From: MEG ELIS >Sent: Thursday, October 23, 2014 6:07 AM >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > >Yn bennaf, South Stack Road, New Park Road, Pump Street a Mill Bank. Mae yna rai eraill, ond dwi'n cymryd bod "Road" yn troi'n "Ffordd" fel arfer? "Terrace" yn "Rhes" ta "Teras"? > >Diolch am unrhyw help! > > >________________________________ >From: Bethan Jones <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Sent: Wednesday, 22 October 2014, 22:40 >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > > > >Be oeddat ti isio Meg? > >Cofion >Bethan > > >From: MEG ELIS >Sent: Wednesday, October 22, 2014 7:59 PM >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > >Diolch Sian, dria'i rhain - ond mi fydd braidd yn boenus eu gwneud fesul un.... >Well na dim, sbo! > > >________________________________ >From: Sian Roberts <[log in to unmask]> >To: [log in to unmask] >Sent: Wednesday, 22 October 2014, 19:56 >Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi > > > >Ti wedi treio royalmail.com ? >Neu Google Streetview? > >Y ddau yn gallu helpu - ond nid bob amser! > >Siân > > > >On 2014 Hyd 22, at 7:36 PM, MEG ELIS wrote: > >Help - dwi isio rhain ar frys - wedi meddwl eu bod nhw gen i, ond tydyn nhw ddim! Fawr o help o wefan CS Ynys Môn - oes yna ffynhonnell arall neu Fonwysyn ffeind all helpu? >> >>Diolch ymlaen llaw. >> >> > > > > > >No virus found in this message. >Checked by AVG - http://www.avg.com/ >Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8427 - Release Date: 10/21/14 > > >No virus found in this message. >Checked by AVG - http://www.avg.com/ >Version: 2015.0.5315 / Virus Database: 4181/8427 - Release Date: 10/21/14