Meg
Heb fynd yno i weld, fedra i ddim dy helpu di mae gen i ofn.
Mae enwau’r strydoedd yn amrywio yng Nghaergybi, ond dwi bron yn siwr fod
rhestr ohonyn nhw mewn wardiau ar gyfer etholiadau. Oes dim mod i ti ffonio’r
adran berthnasol yn Llangefni i holi?
Mae’n ddrwg gen i na fedra i helpu mwy.
Dwi bron yn siwr mai Ffordd Ynys Lawd ydi South Stack Road, ond faswn i
ddim yn lecio rhoi fy mhen i’w dorri ...
Cofion
Bethan
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow" ymailto="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
Sent: Thursday, October 23, 2014 6:07 AM
Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi
Yn bennaf, South Stack Road, New Park Road, Pump Street a Mill Bank. Mae
yna rai eraill, ond dwi'n cymryd bod "Road" yn troi'n "Ffordd" fel arfer?
"Terrace" yn "Rhes" ta "Teras"?
Diolch am unrhyw help!
Be oeddat ti isio Meg?
Cofion
Bethan
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow" ymailto="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
Sent: Wednesday, October 22, 2014 7:59 PM
Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi
Diolch Sian, dria'i rhain - ond mi fydd braidd yn boenus eu gwneud fesul
un....
Well na dim, sbo!
Ti wedi treio
royalmail.com ?
Neu Google Streetview?
Y ddau yn gallu helpu - ond nid bob amser!
Siân
On 2014 Hyd 22, at 7:36 PM, MEG ELIS wrote:
Help - dwi isio rhain ar frys - wedi meddwl eu bod nhw gen i, ond tydyn
nhw ddim! Fawr o help o wefan CS Ynys Môn - oes yna ffynhonnell arall neu
Fonwysyn ffeind all helpu?
Diolch ymlaen llaw.