Diolch Geraint a Bethan: roeddwn i wedi rhoi "Ffordd Ynys Lawd" gan fod South Stack Road yng nghnaol dogfen Gymraeg yn swnio'n wirion iawn... ________________________________ om: Bethan Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, 23 October 2014, 9:42 Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Meg Heb fynd yno i weld, fedra i ddim dy helpu di mae gen i ofn. Mae enwau’r strydoedd yn amrywio yng Nghaergybi, ond dwi bron yn siwr fod rhestr ohonyn nhw mewn wardiau ar gyfer etholiadau. Oes dim mod i ti ffonio’r adran berthnasol yn Llangefni i holi? Mae’n ddrwg gen i na fedra i helpu mwy. Dwi bron yn siwr mai Ffordd Ynys Lawd ydi South Stack Road, ond faswn i ddim yn lecio rhoi fy mhen i’w dorri ... Cofion Bethan From: MEG ELIS Sent: Thursday, October 23, 2014 6:07 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Yn bennaf, South Stack Road, New Park Road, Pump Street a Mill Bank. Mae yna rai eraill, ond dwi'n cymryd bod "Road" yn troi'n "Ffordd" fel arfer? "Terrace" yn "Rhes" ta "Teras"? Diolch am unrhyw help! ________________________________ From: Bethan Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 22 October 2014, 22:40 Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Be oeddat ti isio Meg? Cofion Bethan From: MEG ELIS Sent: Wednesday, October 22, 2014 7:59 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Diolch Sian, dria'i rhain - ond mi fydd braidd yn boenus eu gwneud fesul un.... Well na dim, sbo! ________________________________ From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 22 October 2014, 19:56 Subject: Re: Enwau Strydoedd Caergybi Ti wedi treio royalmail.com ? Neu Google Streetview? Y ddau yn gallu helpu - ond nid bob amser! Siân On 2014 Hyd 22, at 7:36 PM, MEG ELIS wrote: Help - dwi isio rhain ar frys - wedi meddwl eu bod nhw gen i, ond tydyn nhw ddim! Fawr o help o wefan CS Ynys Môn - oes yna ffynhonnell arall neu Fonwysyn ffeind all helpu? > >Diolch ymlaen llaw. > >