Print

Print


O diar! Faswn i byth yn meddwl treiglo ar ôl wedyn – ee, merch, wedyn
bachgen, wedyn ci.

Wn i ddim pam chwaith – ac unwaith eto, methu dod o hyd i ‘reol’ yn
unman....

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Edgar
Sent: 15 October 2014 09:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

 

Mi dybiwn i y dylid treiglo ar ôl "wedyn" yn yr un modd.

 

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 14 October 2014 19:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

Diolch bawb am eich cyfraniadau.

Yn y pen draw, fe awgrymais newid ‘yna’ i ‘wedyn’....

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 14 October 2014 16:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

 

Faswn i'n cytuno efo hyn: 'Prynodd gi; yna llygoden, yna cath, yna ceffyl (a
brynodd) yn yr arwerthiant.'  Yma, does dim angen treiglad. Dyna sydd i'w
glywed yn naturioli mi, yn hytrach na threiglo pob peth mewn rhestr. 

 

Ar drywydd ychydig yn wahanol ond yn gysylltiedig a hyn gan fod rhai
engheifftiau o hyn wedi dod i'r amlwg, mae sawl un wedi awgrymu ailadrodd
'prynodd' - onid y ffordd naturiol yn Gymraeg ydi defnyddio'r berfenw'r ail
waith (os ydi'r goddrych run fath)? E.e. Prynodd gi wedyn mynd i'r siop
arall a phrynu llygoden; neu Prynodd gi wedyn prynu llygoden.

 

Mae'r arfer o ddefnyddio'r berfenw, yr ail waith lle bo'r 'gwneuthurwr' yr
un un yn rhan hanfodol o deithi'r iaith...decini...ond ma siwr deudith
rhywun yn groes.

 

Anna




Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-10-14 13:41 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:

Dwi ddim yn ramadegydd ond dwi'n meddwl ei fod yn dibynnu ar y cyd-destun,
h.y. a oes rhan o'r cymal ar goll ar ôl 'llygoden' ynte a oes atalnod llawn
i fod ar ôl 'llygoden'.  E.e. 'Prynodd gi; yna llygoden a brynodd' neu
'Prynodd gi; yna llygoden, yna cath, yna ceffyl (a brynodd) yn yr
arwerthiant.'  Yma, does dim angen treiglad.  Ond os oes atalnod llawn neu
gysylltair i fod ar ôl 'llygoden', mae'n rhaid i ni gymryd yn ganiataol bod
gair, sy'n gorfod bod yn ferf, ar goll, h.y. 'Prynodd gi; yna (prynodd)
lygoden.'  Yma, gwrthrych y ferf ydy 'llygoden', felly mae angen treiglo.
Ond am ein bod ni'n arfer gadael y ferf allan er mwyn dweud pethau'n gyflym,
rydyn ni'n gorfod aros i feddwl a oes angen treiglo ai peidio.  

Neu, efallai bod ffordd arall o edrych arni.......

 

 

2014-10-14 10:44 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:

Diolch Howard – rydych wedi crynhoi yn union beth oedd fy ngwestiwn.

 

Dw i wedi pori drwy ambell ffynhonnell ramadegol ond heb gael unrhyw lwc. Mi
faswn i’n treiglo geiriau eraill e.e. cafodd ferch, yna fachgen, ond am rhyw
reswm roedd treiglo’r ‘ll’ yn swnio’n chwithig.

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huws, Howard
Sent: 14 October 2014 09:36
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

 

Mae hyn oll yn ddiddorol iawn, a dwi'n meddwl y dylem ganolbwyntio ar
benderfynu'r ymholiad, yn hytrach na cheisio ffordd heibio iddo. A yw
"Prynodd gi, yna llygoden" yn gywir ai peidio? Onid yw, pam felly? Beth
ddywed y gramadegwyr yn ein plith?

 

  _____  

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
<[log in to unmask]> ar ran Eluned Mai
<[log in to unmask]>
Anfonwyd: 14 Hydref 2014 09:25
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna' 

 

Tybed ai oherwydd y pethau sydd ar goll, fel 'dan ni'n gwneud yn aml ar
lafar - yn hepgor rhai geiriau ond yn cadw'r treigladau sydd i fod ar eu
hôl.  Petaen ni'n ei sgwennu'n llawn, mi fasan ni'n dweud: 'Prynodd gi; yna,
mi brynodd lygoden.' efo hanner colon ar ôl 'gi' yn hytrach na choma. 

 

 

2014-10-13 16:50 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:

dal ddim yn dallt! 

 

Anna




Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-10-13 17:12 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

"yna brynodd lygoden" - dim arwyddocad mawr, dim ond fy llithriad i - am a
wn i!
Ann

On 13/10/2014 14:01, anna gruffydd wrote:

"yna brynodd lygoden" - pam gebyst mae isio treiglo i 'brynodd'? Dwi ar goll
yn llwyr rwan. Dwi'n dal i ddeud mai'r ffordd symla fyddai deud 'prynodd gi,
yna prynu llygoden' (a bwrw bod na amser wedi bod rhwng y ddau benderfyniad
ac na ddaru o ddim prynu'r llygoden ar yr un pryd a phrynu'r ci).

 

Anna




Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-10-13 13:56 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

Mae rhywun yn dweud "dyna lygoden" a "mae 'na lygoden yma" (sangiad?).  Nid
yw Bruce yn gweld ei fod yn anghywir, ond ei fod yn swnio ychydig yn
chwithig, a byddai "yna brynodd lygoden" yn well.
Ann

On 13/10/2014 11:03, Iwan Edgar wrote:

Greddf am wn i - mi ddylia bod gin i resymau gramadegol cywrain i
gyfiawnhau. (Gwrthrych berf gryno yn treiglo'n feddal ?)

 


  _____  


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 13 October 2014 08:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

Pam, Iwan? Dio'm yn swnio'n naturiol i mi, er bod y llygoden yn wrthrych
prynodd. Un ffor rownd hi fyddai deud Prynodd gi wedyn prynu llygoden -
wedyn does na ddim rhithyn o amheuaeth! Iff in dywt... 

 

Anna




Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-10-13 8:56 GMT+02:00 Iwan Edgar <[log in to unmask]>:

oes

 


  _____  


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 13 October 2014 07:34
To: [log in to unmask]
Subject: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

Bore Da

 

Tybed oes rhywun yn gwybod a oes angen treiglo yn y cyd-destun hwn.

 

“Prynodd gi, yna lygoden”

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian

 

Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services

47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL

02920 554567



 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14