Print

Print


Tybed ai oherwydd y pethau sydd ar goll, fel 'dan ni'n gwneud yn aml ar lafar - yn hepgor rhai geiriau ond yn cadw'r treigladau sydd i fod ar eu hôl.  Petaen ni'n ei sgwennu'n llawn, mi fasan ni'n dweud: 'Prynodd gi; yna, mi brynodd lygoden.' efo hanner colon ar ôl 'gi' yn hytrach na choma.



2014-10-13 16:50 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
dal ddim yn dallt!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2014-10-13 17:12 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
"yna brynodd lygoden" - dim arwyddocad mawr, dim ond fy llithriad i - am a wn i!
Ann
On 13/10/2014 14:01, anna gruffydd wrote:
"yna brynodd lygoden" - pam gebyst mae isio treiglo i 'brynodd'? Dwi ar goll yn llwyr rwan. Dwi'n dal i ddeud mai'r ffordd symla fyddai deud 'prynodd gi, yna prynu llygoden' (a bwrw bod na amser wedi bod rhwng y ddau benderfyniad ac na ddaru o ddim prynu'r llygoden ar yr un pryd a phrynu'r ci).

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2014-10-13 13:56 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
Mae rhywun yn dweud "dyna lygoden" a "mae 'na lygoden yma" (sangiad?).  Nid yw Bruce yn gweld ei fod yn anghywir, ond ei fod yn swnio ychydig yn chwithig, a byddai "yna brynodd lygoden" yn well.
Ann
On 13/10/2014 11:03, Iwan Edgar wrote:
Greddf am wn i - mi ddylia bod gin i resymau gramadegol cywrain i gyfiawnhau. (Gwrthrych berf gryno yn treiglo'n feddal ?)


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 13 October 2014 08:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

Pam, Iwan? Dio'm yn swnio'n naturiol i mi, er bod y llygoden yn wrthrych prynodd. Un ffor rownd hi fyddai deud Prynodd gi wedyn prynu llygoden - wedyn does na ddim rhithyn o amheuaeth! Iff in dywt...

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2014-10-13 8:56 GMT+02:00 Iwan Edgar <[log in to unmask]>:
oes


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 13 October 2014 07:34
To: [log in to unmask]
Subject: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'

Bore Da

 

Tybed oes rhywun yn gwybod a oes angen treiglo yn y cyd-destun hwn.

 

“Prynodd gi, yna lygoden”

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian

 

Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services

47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL

02920 554567

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14



No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14