Print

Print


Tybed ai oherwydd y pethau sydd ar goll, fel 'dan ni'n gwneud yn aml ar
lafar - yn hepgor rhai geiriau ond yn cadw'r treigladau sydd i fod ar eu hôl.
Petaen ni'n ei sgwennu'n llawn, mi fasan ni'n dweud: 'Prynodd gi; yna, mi
brynodd lygoden.' efo hanner colon ar ôl 'gi' yn hytrach na choma.



2014-10-13 16:50 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:

> dal ddim yn dallt!
>
> Anna
>
> Ye who opt for cut'n'paste
> Tread with care and not in haste!
>
> 2014-10-13 17:12 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>
>>  "yna brynodd lygoden" - dim arwyddocad mawr, dim ond fy llithriad i - am
>> a wn i!
>> Ann
>> On 13/10/2014 14:01, anna gruffydd wrote:
>>
>> "yna brynodd lygoden" - pam gebyst mae isio treiglo i 'brynodd'? Dwi ar
>> goll yn llwyr rwan. Dwi'n dal i ddeud mai'r ffordd symla fyddai deud
>> 'prynodd gi, yna prynu llygoden' (a bwrw bod na amser wedi bod rhwng y ddau
>> benderfyniad ac na ddaru o ddim prynu'r llygoden ar yr un pryd a phrynu'r
>> ci).
>>
>>  Anna
>>
>>  Ye who opt for cut'n'paste
>>  Tread with care and not in haste!
>>
>> 2014-10-13 13:56 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>>
>>>  Mae rhywun yn dweud "dyna lygoden" a "mae 'na lygoden yma" (sangiad?).
>>> Nid yw Bruce yn gweld ei fod yn anghywir, ond ei fod yn swnio ychydig yn
>>> chwithig, a byddai "yna brynodd lygoden" yn well.
>>> Ann
>>> On 13/10/2014 11:03, Iwan Edgar wrote:
>>>
>>> Greddf am wn i - mi ddylia bod gin i resymau gramadegol cywrain i
>>> gyfiawnhau. (Gwrthrych berf gryno yn treiglo'n feddal ?)
>>>
>>>  ------------------------------
>>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
>>> <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *anna gruffydd
>>> *Sent:* 13 October 2014 08:19
>>> *To:* [log in to unmask]
>>> *Subject:* Re: Treiglo 'll' ar ôl 'yna'
>>>
>>>  Pam, Iwan? Dio'm yn swnio'n naturiol i mi, er bod y llygoden yn
>>> wrthrych prynodd. Un ffor rownd hi fyddai deud Prynodd gi wedyn prynu
>>> llygoden - wedyn does na ddim rhithyn o amheuaeth! Iff in dywt...
>>>
>>>  Anna
>>>
>>>  Ye who opt for cut'n'paste
>>>  Tread with care and not in haste!
>>>
>>> 2014-10-13 8:56 GMT+02:00 Iwan Edgar <[log in to unmask]>:
>>>
>>>>  oes
>>>>
>>>>  ------------------------------
>>>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian
>>>> Huws
>>>> *Sent:* 13 October 2014 07:34
>>>> *To:* [log in to unmask]
>>>> *Subject:* Treiglo 'll' ar ôl 'yna'
>>>>
>>>>  Bore Da
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Tybed oes rhywun yn gwybod a oes angen treiglo yn y cyd-destun hwn.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> “Prynodd gi, yna lygoden”
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Diolch ymlaen llaw.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhian
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
>>>>
>>>> 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL
>>>>
>>>> 02920 554567
>>>>
>>>>
>>>>
>>>
>>>  No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14
>>>
>>>
>>>
>>  No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4040/8380 - Release Date: 10/13/14
>>
>>
>>
>