"Τρύφωνος" yw'r ffurf  Roegaidd wreiddiol, felly "Triffon" fyddai agosaf i'r ynganiad presennol yn y Gymraeg, ac "Y  Metropolitiad Triffon" (gyda'r fannod) fyddai ei deitl. Gan ei fod yn fetropolitiad Slafonig, y mae'n uwch ei radd nag archesgob: fel arall, yn y traddodiad Groegaidd.  'Dydym ni ddim, fel arfer, yn newid enwau estron i'w ffurf Gymraeg wrth gyfieithu, ond gan mai yng Nghyrileg yr ysgrifennid ei enw, gallwn ninnau, wrth ei newid i'r wyddor Ladin, achub cyfle i'w Gymreigio.