Print

Print


Cytuno a be ti'n ddeud am Bruce, Garry, ond mae gynnon ni i gyd GyrA wrth
ein penelin os nad Gamiel ei hun. Dwi'n meddwl mai dyna be sy gan Anna dan
sylw a be sy' weithia'n da^n dan groen eraill ohonom - yn rhy aml mae yna
ddefnyddio'r cylch fel Siop y Stop Cynta, yn lle chwilio'n gynta i gael
ffynonellau eraill sy at ein defnydd ni i gyd.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2014-10-02 19:19 GMT+02:00 Garry Nicholas <
[log in to unmask]>:

> Gwir y gair Ann- sy'n dangos ein bod ni am daro ar y cyfieithiad gorau bob
> amser. Y drafferth gyda'r 'gwahanol leoedd' y cyfeiriwch chi atynt yw eu
> bod yn aml yn rhoi cynigion gwahanol am yr yn geiriau Saesneg gwreiddiol.
> Trwy'r cylch hwn felly mae modd cael cyngor yr arbenigwyr ar y cynnig gorau
> .Ac wedi'r cyfan does dim pob un ohonon ni mor ffodus a chael yr
> arch-arbenigwr Bruce wrth ein hochr i roi cyngor. Os oes rhywun yn haeddu
> cael ei anrhydeddu yng Nghymru am ei gampwaith - Bruce yw hwnnw
> Garry
>
>
> -----Original Message-----
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
> Sent: Thu, 2 Oct 2014 16:52
> Subject: Re: Topside of Beef
>
>  Faint o amser gwahanol gyfieithwyr sydd wedi mynd ar chwilio am atebion
> o wahanol leoedd, tybed?
> Ann
> On 02/10/2014 15:58, anna gruffydd wrote:
>
> Mae gan GyrA awgrymiadau ar gyfer topside.
>
>  Anna
>
>  Ye who opt for cut'n'paste
>  Tread with care and not in haste!
>
> 2014-10-02 16:31 GMT+02:00 Garry Nicholas <
> [log in to unmask]>:
>
>> Wedi cael rhestr o eiriau i'w cyfieithu- Topside of Beef/Beef
>> Topside/Welsh Topside of Beef/Welsh Beef Topside. Rwy wedi holi'r cwsmer-
>> mae'n debyg mai M&S sydd angen y geiriau Cymraeg.
>> Oes ffordd gryno o gyfieithu'r rhain?  Sylwi fod rhywun wedi holi hyn o'r
>> blaen ond ni chafwyd ateb terfynol
>> Diolch am unrhyw gymorth
>> Garry
>>
>
>  No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4025/8311 - Release Date: 10/02/14
>
>
>