You can now see venues appearing on the participation map on our webpage! To join them simply head to our website and complete the online form.

 

To help you with organising your event we’ve put together some top tips including how to engage with a youth group to deliver an event. If you’d like to add anything further, please get in touch @kidsinmuseums #takingover #diwrnodmeddiannu.

 

Getting your organisation on board:

 

-          Involve a wide range of staff from the start – the more people involved in the planning stages, the easier it is to take an idea forward.

-          Take advantage of everyone’s strengths and expertise – although some staff may not be in regular contact with young people they will have a variety of new things to teach them and interesting and varied perspectives of your organisation to share.

-          Don't forget volunteers – they can be a vital asset in organising and advertising the event as well as helping to co-ordinate on the day.

-          Don’t forget to involve your marketing, PR and social media departments – let people know what you are doing. Remember this is happening all over country and is a great way to showcase the important work happening in your organisation.

-          Use VIPs and local press to build your profile.

-          Finally celebrate your achievement– everyone loves a success story and young people may go on to be your biggest champions.

 

 

 

 

 

Engaging a group to work with:

 

-          Make use of existing relationships with agencies and youth groups.

-          Target and make use of sympathetic networks and meetings to spread the word.

-          Be specific and talk their language – you’ll be offering them a great opportunity and they will take you seriously.

-          Visit youth clubs – never under estimate the value of face to face contact.

 

Planning and delivering your event:

 

-          Start small – don't be over ambitious or complicated, choose a focus for your event and it is more likely to be successful.

-          Plan in advance – make the offer early to a group of young people and your can make sure everyone is getting the most out of the partnership.

-          Choose an appropriate group – think about the age and size of the group to suit need.

-          Make the aims of the event clear – tasks and clear objectives give the young people a real sense of achievement.

-          Offer refreshments if possible – kids appreciate cake as much as we appreciate coffee breaks!

-          Invite parents or class mates etc to be visitors – if you are planning a public event then make sure they have an audience.

-          Don't worry! It’s amazing how well young people take on responsibility so give them a chance and see what happens.

 

Best wishes

Kids in Museums Taking Over Museums Day Team

 

Caroline Marcus and Jenie Macindoe – Taking Over Museums Day Team Directors

Catherine Townsend - Taking Over Museums Day Team Manager

Tempe Nell - Taking Over Museums Day Team Project Assistant

Gallwch weld safleoedd yn ymddangos ar y map cyfranogi ar ein gwefan erbyn hyn! I ymuno â nhw, ewch draw i’n gwefan a llenwi’r ffurflen ar-lein.

 

I’ch helpu i drefnu eich ddigwyddiad rydym wedi casglu nifer o awgrymiadau da i chi, gan gynnwys Sut i gydweithio â grŵp ieuenctid i gynnal digwyddiad. Os hoffech ychwanegu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni ar @kidsinmuseums #takingover #diwrnodmeddiannu.

 

Perswadio eich sefydliad chi i gymryd rhan:

 

-          Rhowch ran i amrywiaeth mawr o staff ei chwarae o’r cychwyn un – po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan wrth gynllunio, yr hawsaf yw hi i ddatblygu syniad.

-          Manteisiwch ar gryfderau ac arbenigedd pawb – er na fydd rhai o’r staff mewn cysylltiad rheolaidd gyda phobl ifanc, bydd ganddynt amrywiaeth o bethau newydd i’w dysgu iddynt a safbwyntiadau diddorol ac amrywiol eich sefydliad i’w rhannu.

-          Peidiwch ag anghofio’r gwirfoddolwyr – gallent fod yn ased hanfodol wrth drefnu a hysbysebu’r digwyddiad yn ogystal â helpu i gydlynu ar y diwrnod.

-          Peidiwch ag anghofio cynnwys eich adrannau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol – gadewch i bobl wybod beth rydych yn ei wneud. Cofiwch, mae hyn yn digwydd drwy’r wlad i gyd ac mae’n ffordd wych o ddangos y gwaith pwysig sy’n digwydd yn eich sefydliad.

-          Defnyddiwch bobl bwysig a’r wasg leol i godi eich proffil.

-          Yn olaf, dathlwch eich llwyddiant – mae pawb wrth eu boddau’n clywed hanes am lwyddiant a efallai mai’r bobl ifanc yma fydd eich hysbyseb orau.

 

Cysylltu gyda grŵp i weithio â hwy:

 

-          Defnyddiwch y cysylltiadau sydd gennych yn barod gydag asiantaethau a grwpiau ieuenctid.

-          Targedwch a defnyddiwch rwydweithiau a chyfarfodydd lle bydd diddordeb i ledaenu’r gair.

-          Byddwch yn benodol a siaradwch yn eu hiaith nhw – byddwch yn cynnig cyfle gwych iddynt a byddent yn eich cymryd o ddifrif.

-          Ewch i glybiau ieuenctid – mae cysylltu wyneb yn wyneb yn werthfawr iawn.

 

Cynllunio a chynnal eich digwyddiad:

 

-          Cychwynwch yn fach – peidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol neu gymhleth, dewiswch ffocws i’ch digwyddiad ac mae’n fwy tebygol o lwyddo.

-          Cynlluniwch o flaen llaw - gwnewch gynnig cynnar i grŵp o bobl ifanc a gallwch sicrhau bod pawb yn manteisio i’r eithaf o’r bartneriaeth.

-          Dewiswch grŵp priodol – ystyriwch oed a maint y grŵp i sicrhau eich bod yn ateb eu hanghenion.

-          Eglurwch nod y digwyddiad yn glir – mae tasgau ac amcanion clir yn rhoi teimlad o lwyddiant go iawn i’r bobl ifanc

-          Cynigiwch ddiodydd a bwyd ysgafn os yn bosibl - mae plant yn gwerthfawrogi cacen cymaint ag yr ydym ni’n gwerthfawrogi coffi!

-          Gwahoddwch rieni neu ffrindiau dosbarth ac ati i fod yn ymwelwyr – os ydych yn cynllunio digwyddiad cyhoeddus, gwnewch yn siŵr bod ganddynt gynulleidfa.

-          Peidiwch â phoeni! Mae’n rhyfeddol mor dda yw pobl ifanc am gymryd cyfrifoldeb felly rhowch gyfle iddynt ac arhoswch i weld beth sy’n digwydd.

 

Ein dymuniadau gorau

Tîm Diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd Kids in Museums

 

Caroline Marcus a Jenie Macindoe – Cyfarwyddwr Tîm y Diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd

 

Catherine Townsend – Rheolwr Tîm y Diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd

Tempe Nell – Cynorthwyydd Prosiect Tîm y Diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd

 

Book now! Kids in Museums Workshops

 

Babies in Museums, 4th November 2014, Kensington Palace, London

Teen Workshop, 3rd March 2015, Cardiff Story, Wales

 

www.kidsinmuseums.org.uk/workshops

CAN Mezzanine

49 - 51 East Road

London N1 6AH

020 7250 8338

 

www.kidsinmuseums.org.uk

 

cid:image001.jpg@01C9C43C.1E2D7FF0
Registered charity no 1123658
We would like to keep you informed about the work of Kids in Museums. If you do not want us to keep in touch, do just reply to this address with 'remove' in the subject line.