Print

Print


Ia, mor frau nes ei fod o'n toddi yn eich ceg chi!  Dim hen waith cnoi arno
fo.

2014-09-08 14:32 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

>  Caf f'atgoffa bob hyn a nhyn gan Bruce na ddylwn ganmol cig am fod "yn
> dyner", dim ond am fod "yn frau".
> Ann
>
> On 08/09/2014 13:04, Eluned Mai wrote:
>
> Diolch Ann!  Dim rhyfedd 'mod i'n methu dod o hyd iddo.
>
> 2014-09-08 12:12 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>
>>  *breuo*
>>
>> [bf. o’r a. *brau*; ansicr yw’r engh. gyntaf, gw. *LPBT* 309]
>>
>> *bg.a.*
>>
>> Mynd neu wneud yn frau, mynd neu wneud yn fregus, treulio, briwsioni,
>> dadfeilio, pydru, darfod, hefyd yn *ffig.*; tyneru (cig), gwneud (crwst)
>> yn friwsionllyd:
>>
>> *to become or make brittle, become or make fragile, fray, crumble, fall
>> apart, rot, perish, also fig.; tenderize (meat), make (pastry) short*.
>>
>> Ann
>>   On 05/09/2014 10:47, Eluned Mai wrote:
>>
>>  Dwi'n cofio Mam yn gwnïo clwt ar ddilledyn fyddai wedi gwisgo - fel y
>> bydda hi'n dweud, ar ddarn 'wedi braeo (neu 'bruo') cyn iddo fynd yn
>> dwll'.  Byddai'n gwneud rhywbeth tebyg efo cynfasau fyddai wedi 'bruo', ond
>> eu torri ar eu hyd drwy'r tamaid brau y tro hwn ac yn gwnïo'r ymylon,
>> oedd heb wisgo, efo'i gilydd i lawr y canol.
>>
>>
>>
>>
>> 2014-09-04 20:04 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>
>>>  Nid mod i fawr o winiadreg chwaith!
>>>
>>> On 4 Sep 2014, at 16:23, Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>> wrote:
>>>
>>>  Aha! Mae hynny'n gwneud synnwyr felly - ond a fyddai pobl yn gwybod
>>> hynny?
>>> (Dwi'n cymryd bod pawb mor anwybodus â fi!)
>>>
>>>  Siân
>>>
>>>
>>>  On 2014 Medi 4, at 4:02 PM, Carolyn wrote:
>>>
>>>  Dwi meddwl mai 'r syniad ers talwm oedd rhoi clwt ar ddarn gwan cyn
>>> iddo fynd yn dwll nid trwsio twll ar ol iddo ymddangos
>>>
>>> On 4 Sep 2014, at 12:44, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>>   Da!
>>>
>>>  Anna
>>>
>>>  Ye who opt for cut'n'paste
>>>  Tread with care and not in haste!
>>>
>>>
>>> 2014-09-04 12:52 GMT+02:00 Roberts Meleri Haf (GwE) <
>>> [log in to unmask]>:
>>>
>>>> Gwell atal na gwella?
>>>>
>>>> Meleri
>>>>
>>>> ________________________________
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> on behalf of Angharad Evans
>>>> Sent: Thu 04/09/2014 11:17
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Prevention is better than cure
>>>>
>>>>
>>>> Bore da
>>>>
>>>> Oes cyfieithiad i'r uchod os gwelwch yn dda?
>>>>
>>>> Diolch ymlaen llaw.
>>>>
>>>> Cofion
>>>>
>>>> Angharad
>>>>
>>>
>>>
>>>
>>   No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>>  Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4015/8160 - Release Date: 09/05/14
>>
>>
>>
>  No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4015/8173 - Release Date: 09/08/14
>
>
>