Print

Print


Gyfeillion

Rwyf wedi sylwi bod 'Sianel Bryste' yn cael ei ddefnyddio ar nifer o wefannau yn hytrach na  'Môr Hafren' - allaf i ddim deall pam, yn ôl Geiriadur yr Academi Môr Hafren yw'r cyfieithiad cywir a dyna beth byddwn yn ei ddefnyddio wrth drafod y môr pan fyddaf yn pysgota ym Mhenarth.

Dyma rai o'r gwefannau

http://www.welsh.visitcardiff.com/Gwybodaeth-am-Gaerdydd/Caerdydd-Wyrdd.html

http://www.s4c.co.uk/adloniant/c_codi-hwyl.shtml

http://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/archif-newyddion/2012/canolfanchwaraeontraethadwrynagoreidrysauifusnes.php

Oes yna reswm, oes gwahaniaeth rhwng Môr Hafren a 'Sianel Bryste' ynteu ai cyfieithiad slafaidd sydd yma?

Muiris