Cytuno â'r ddwy ohonoch. 
Plethen cefn pennog efallai? 

(Gan obeithio fod y 'pen' yn 'pennog' yn gwneud i'r cwsmer feddwl am wallt yn lle chips.)
 



Sent from my iPhone

On 19 Sep 2014, at 14:55, megan tomos <[log in to unmask]> wrote:

Dwi'n meddwl bod rhaid cael cyfeiriad at y cefn os am ddilyn delwedd y gair Saesneg.  Oes yne ddim ffordd arall o gyfleu'r peth?
----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 19/09/2014 - 14:44 (UTC)
To : [log in to unmask]
Subject : Re: fishtail plait

Wedi meddwl, tydi’r blethen ddim byd tebyg i gynffon pysgodyn – does dim hollt ynddi (ac am yr un rheswm tydi ddim yn debyg i gynffon gwennol, chwaith).

 

Enw arall ar ‘fishtail braid’ yw ‘herringbone braid’. 

 

Nawr rydyn ni’n nes ati – mae patrwm y blethen yn ddigon agos at batrwm ‘herringbone”.

 

Dwi’n gwybod beth sydd yn GyrA o dan ‘herringbone pattern’, sef ‘patrwm cefn pennog’ , ‘patrwm saethben’ a ‘patrwm asgwrn pysgodyn’.  Oes un o’r rheiny’n fwy addas na’i gilydd?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 19 September 2014 14:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: fishtail plait

 

Mae'n siwr bod y cywair yn dylanwadu tipyn ar y penderfyniad yn yr achlysur yma.

 

Faint ohonom sy'n gofyn am blow-dry yn Gymraeg?

 

Dwi'n siwr y byddai ambell i Gymraes yn cael cymaint o sioc â dynes siop chips Corwen yn y pumdegau pan ofynnodd rhywun am bysgodyn a sglodion.

 

Mater o ymgynefino ydi hi ac os mai cyfieithu deunyddiau cwrs trin gwallt sydd dan sylw bydd y cwrs yn gyfrwng i wneud hynny.

 

Dwi'n cofio dau ohonom yn y swyddfa gyfieithu yng Ngholeg Bangor yn y saithdegau yn pendroni am ba derm i'w ddefnyddio am calculator ac yn ceisio creu enw o'r ferf clandro a dyma lais bach merch fy chwaer yr oeddwn yn ei gwarchod ar y pryd yn dweud yn cyfrifanell.  Roedd y gair mor naturiol â dŵr iddi hi gan ei bod yn ei glywed yn yr ysgol.

 

Cytuno â Sian mae plethen cynffon môr-forwyn yn swnio'n fwy deniadol na phlethen cynffon pysgodyn.  Ond os mai cyfeirio at y siap fforch a wneir gellid dweud plethen cynffon wennol neu hyd yn oed plethen wennol.  A oes rhaid bod mor gaeth i'r Saesneg?  Tydi wennol y gwehydd ddim mor debyg â hynny i wennol go iawn ond ei bod yn gwibio'n ôl ac ymlaen.  Neu beth am blethyn fforchog?

 

Megan

----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 19/09/2014 - 14:03 (UTC)
To : [log in to unmask]
Subject : Re: fishtail plait

Oce derbyn y pwynt... Ydy mae'n llond ceg. 

Ond chlywais i neb yn gofyn 'do you want a bag of chips with your fishtail plait?' 

Sent from my iPhone


On 19 Sep 2014, at 13:47, Dafydd Timothy <[log in to unmask]> wrote:

“Dach chi isio plethen cynffon pysgodyn?” .... a bag o sglodion hefyd?...halen a finag?!


On 19/09/2014 13:39, Geraint Lovgreen wrote:

Dipyn o lond ceg ydio ynde? 5 sillaf o gymharu â 2. Neu 7 o gymharu â 3. Fysa rhywbeth mwy slic yn well.

 

Fedrwch chi ddychmygu hogan mewn siop trin gwallt yn gofyn “Dach chi isio plethen cynffon pysgodyn?”

 

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Sian Reeves

Sent: Friday, September 19, 2014 11:32 AM

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Subject: Re: fishtail plait

 

 

Er mai cyd-destun gwallt a harddwch sydd gennych yma, a yw'n werth ystyried mai disgrifiad cyffredinol ar gyfer patrwm ar blethen yw 'fishtail', a bod yr un gair ('fishtail plait') yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg ym maes pobi bara, brodwaith, clymu rhaffau, gemwaith ac yn y blaen hefyd? (Efallai bod yna hen air penodol yn un o'r meysydd yna?)

Oherwydd hynny, dydw i ddim yn gweld dim o'i le ar 'gynffon pysgodyn' - na, dydy e ddim yn cyfleu prydferthwch ond mae'n disgrifio'r hyn ydyw.

 

Siân

 

 

 

From: Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, September 19, 2014 11:14 AM
Subject: Re: fishtail plait


O ran geirfa yn y maes, yr unig le dwi wedi defnyddio oddi allan i Term
Cymru/Porth Termau/Geiriadur yr Academi ayyb., ydi Rhestr Termau
Harddwch a Thrin Gwallt ar wefan Sgiliaith, ond mae'n bell o fod yn
gynhwysfawr gan nad oes fawr o 'waith' yn y maes hwn wedi'i wneud, mae'n
siwr!
Dyrys!


On 19/09/2014 10:08, Sian Roberts wrote:
> Plethen y fôr-forwyn ddylai hwnna fod, ie?
> Dydi "plethen y forwyn" ddim yn golygu dim byd. Go brin y byddai gan forynion fish-tail plaits!
> Y broblem â "plethen y fôr-forwyn" yw nad oes gan fôr-forwynion blethi.
> Mae "plethen cynffon y fôr-forwyn" yn mynd braidd yn hir.
> Ond mae "plethen cynffon pysgodyn" yn swnio'n ych-a-fi braidd ond mae'r ystyr yn glir!
>
> Dim ateb, sori!  Oes 'na eirfa yn y maes?
>
> Siân
>
>
>
>
> On 2014 Medi 19, at 9:39 AM, Melanie Davies wrote:
>
>> Hoffi Plethen y Forwyn. Beth am 'rhes blethi' am cornrows?
>>
>> Melanie
>>
>> -----Original Message----- From: Dafydd Timothy
>> Sent: Thursday, September 18, 2014 4:49 PM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: fishtail plait
>>
>> Henffych chwychwi ferched (a dynion) gwalltiau hir(ion)!
>>
>> Cyd-destun ydi cwrs Trin gwallt...eto...
>>
>> Be wnawn ni roi fel 'fishtail plait' yn Gymraeg?
>> Mae Plethen y Forwyn i'w glywed yn reit Gymreig, ond ydi 'mermaid plait'
>> cweit yr un peth â 'fishtail plait' ydi'r cwestiwn mawr?!
>> Neu ydi Plethen Cynffon Sgodyn yn mynd i ddenu'r heidiau(heigiau) i'w
>> ganlyn?!
>>
>> Wedi bod yn Gwglo a dal i fod yn ansicr...
>>
>> Hefyd dull arall:
>> 'cornrow'... fase 'rhes yd' neu 'rhes rawn' yn iawn?
>>
>> Diolch,
>> Dafydd

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4765 / Virus Database: 4015/8233 - Release Date: 09/18/14